Cartref
  
  
  
  
  
  

  
Thema:
  
  
  
  
  
    
    
  
  
  
 

YR AIL RYFEL BYD

Sut brofiad oedd byw trwy’r Ail Ryfel Byd tybed? Yn sicr does dim un ateb slic i’r cwestiwn yna – mae’r profiadau wedi amrywio cymaint o ferch i ferch; o fenyw i fenyw. Cofio’r cyfan trwy lygaid plentyn a wna rhai, ond wedyn roedd hi’n dibynnu a oeddech chi’n byw dan gysgod y bomio mewn tref neu ddinas fel Abertawe, Lerpwl, Caerdydd neu Lundain neu’n weddol ddiogel eich byd yng nghefn gwlad Cymru.

Ac eto cyrhaeddodd crafangau’r rhyfel hwn i bob twll a chornel o’r wlad , yn sgil y mygydau nwy, y blacowt, y dogni a’r faciwîs. Cofio ymdopi â’r Gorchymyn Gwaith Gorfodol i gyfrannu at yr ‘ymdrech ryfel’ wna merched hyn a chofio her ymuno â’r Fyddin Dir, y Llu Awyr neu fynd i weithio mewn ffatri arfau. Cyfrannu trwy ddilyn eu gyrfaoedd wnaeth nyrsys ac athrawon, gweithwyr mewn swyddfeydd a’r rhai arhosodd gartre i weithio ar y tir.

Ymhlith yr atgofion ceir y llon a’r lleddf, y doniol a’r dwys; wrth i rai syrthio mewn cariad gyda milwr Americanaidd neu garcharor rhyfel ac i eraill golli anwylyn, boed dad neu frawd neu wr neu gariad.

Mae un peth yn gwbl sicr, er hynny, gadawodd y rhyfel ei ôl ar fywyd pob un a holwyd. GWRANDEWCH ar amrywiaeth eu lleisiau ac EDRYCHWCH ar y lluniau i gael blas unigryw ar y cyfnod helbulus, cyffrous hwn.

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.