(i) LERPWL

Enid Alwena Evans [Y Bermo – Tâp 9048] a anwyd yn Bootle ger Lerpwl yn disgrifio effaith bomio Lerpwl ar ei bywyd a’i haddysg yn Merchant Tailors’ Girls’ School :

“Roeddan ni’n byw mewn lle eitha peryg achos roedd y Gladstone Docks filltir i ffwrdd a oedd gynnan ni barics tu ôl i ni a oedd gynnan ni safle anti-aircraft rhyngthon ni a’r mor a roedd y Liverpool overhead railway yn dod i lawr i Seaforth … a roedd y Leeds and Liverpool Canal rhyw hanner milltir o fan’ny – felly oedden ni’n cael bomiau yn reit amal ynte. Ond doeddwn i ddim yna yn y May Blitz ac roedd ‘na lot o ddifrod bryd hynny – landmines o gwmpas ym mhob man. Lladdwyd tad a dau frawd fy ffrind pennaf, Patsy, ynte. …”


GWRANDEWCH ar Nesta Thomas [Y Groeslon, Arfon. Tâp 9735] a oedd yn byw yn Mount Grove, Penbedw (Birkenhead) adeg y rhyfel yn disgrifio ei phrofiad personol hi o’r bomio yno. Anelu am iard adeiladu llongau Cammell Laird yr oedd yr awyrennau ond cafwyd llawer o golledion eraill yn sgîl hynny :

“Ond y tro dwytha mi gython ni, wel, ddaru ni golli’n ty$, `aru ni gâl yn bomio allan chwadal nhwtha, a wedyn mi gollwyd bob dim. Odd honno yn noson erchyll. Dwi’n cofio honno yn iawn. Fuo raid i ni fynd i shelter. Odd ’na shelters yna ond yr unig dro i ni orfod mynd i’r shelter odd y noson fawr honno … A’r noson honno mi ddaru’r bom syrthio, ylwch, ar ochor yr ysgol i’r stryd a wedyn, be oeddan nhw’n alw y blast o wrth y bom ddaru daro ochr ni i’r stryd felly. A chwythu ffenestri a’r drysa a, wel, bob dim. Gwydra a rwbal a bob dim yn bob man ’de. Yn y bora odd hynny erbyn i ni ddod allan ’te, a’r unig beth safodd ar ’i draed yna odd y cwpwrdd gwydyr. Hen gwpwrdd gwydyr Nain – o bob dim, y gwydr a bob dim yn ’i le. Mae hwnnw gin i yn y parlwr ‘ma rwan. Ydy.

Ond i fynd yn ôl i’r noson honno dwi’n cofio cael yng nghario yno, mi odd ’na lot fowr o bobol yna, a fel dwi’n sbïo yn ôl ma’n siwr gin i bod yna banic llwyr yna. Dwi’n cofio rhai yn gweiddi ... dwi’n cofio odd Mam mewn prydar, fuon ni yna am oria siwr gin i, achos odd ’y mrawd isho bwyd ne potal ‘te, a doedd gynni hi ddim byd. Mae’n siwr bod hi wedi mynd trw be oedd gynni hi achos oeddan ni wedi bod yno hir. Dwi’n cofio fo’n crïo. A dwi’n cofio rhei o’r merchaid ’ma o gwmpas yn siarad a rhai yn gweiddi ‘God save us’ a ryw betha felly. Rhyw argraffiada fel’na sgin i. …

Ond un diwrnod ar ôl iddyn nhw glirio y stryd a petha felly, ddoethan ni yn ôl ac mi oedd na lot o betha wedi cael eu dwyn ychi – beth bynnag oedd ar ôl. Be dwi’n gofio yn blentyn ydy roedd ‘nghoets bach i wedi cael ei dwyn a mabi dol i. A mi oedd hynny wedi ‘nharo fi yn ofnadwy. Rhyw betha bach personol felly ‘de.”



“Munud oeddach chi’n clwad y seiren yn mynd, oeddach chi jest yn gorfod mynd i ryw shelter, ond yn twll dan grisia oeddan ni – odd Mam ’di rhoi matras yna, yn fan’no oeddan ni’n cysgu a hitha ar fatras wrth ein traed ni. Odd hi bob amsar yn gneud i ni ddeud ein padar cyn mynd i gysgu, a cnocio wal drws nesa i weld oeddan nhw’n iawn. Odd o’n fywyd ar biga’r drain, mewn ffordd – weithia ’sa chi ’di mynd i llofft i fynd i’ch gwely a wedyn peth nesa fydda Mam yn dod i fyny a jest gafal yndda ni a ras i lawr a mynd â ni, lluchio ni i mewn i twll dan grisia

[Sôn am air raid shelter] Jest bloc hirsgwâr ’de, brics coch a concrit ar ’i ben o. A tu mewn, odd ’na jest fatha bench reit ar hyd bob ochor, ac yn un gornol odd ’na doilet â ryw hen ganfas drosto fo – elsan odd o.”
[Tâp 9627. Glenys Pritchard, bellach o Borthaethwy, Môn ond a anwyd yn Lerpwl ac a anfonwyd yn faciwî i Garmel, Caernarfon oherwydd y rhyfel.]



ABERTAWE : Mae’n ystrydeb i ddweud fod pawb oedd yn byw yn ne Cymru ym mis Chwefror 1941 yn honni iddynt weld Abertawe’n fflam a’r awyr yn goch uwch-ben.

Dyma dystiolaeth llygad-dystion i’r bomio parhaus.

“Ron i yma (yn Sgeti) ond am y trydydd noswaith. Roedd modryb gan Gwent ( ei gwr) ym Mhontarddulais ac mynnodd e fynd â fi a – roedd Ieuan bryd hynny yn fabi. On i wedi aros nos ‘na ond on i’n methu cadw o ‘ma … rhaid mod i wedi câl bws a cerdded nôl trwy Abertawe wedyn a dwr yn llifo ym mhob man a pobol fel refugees … yn cario’u pethe nhw . On i’n gallu gweld Abertawe’n llosgi o Bontarddulais – y wybren yn goch i gyd.”

[Tâp 9026 Gwladwen Ann Jones, Abertawe.]



Disgrifia Miriam Evans Treboeth, Abertawe [Tâp 8888] y paratoadau ar gyfer mynd i’r air raid shelter gan ofalu fod ganddynt gês â bisgedi a chanhwyllau a pholisïau yswiriant ynddo, rhag ofn. Ond

“Amser y Blitz – ‘na beth sy’n sefyll mâs yn naturiol ynte fe? Odd hi wedi bod yn bwrw eira. Bob tro odd hi’n bwrw eira on ni’n gwbod bydden nhi’n câl rhywbeth yn Abertawe achos odd yr afon (Tawe) yn sefyll mâs yn genol gwyn yr eira. … (Y noson gynta wedi bod yn y capel ac yn dod adre) beth odd tu fâs fan hyn ond y fire engine … beth on nhw wedi neud odd gollwng incendiaries gynta i oleuo’r lle lan i gyd a on nhw wedi syrthio dros y lle i gyd a odd y ty ‘na lawr fan hyn odd hwnna ar dân … A odd stirrup pumps ‘da nhw a wi’n cofio wncwl i fi yn byw fan hyn a oedd stirrup pump ‘da fe , fel odd e’n gweud, ‘R’un man ‘se chi’n poeri mewn i’r tân!’ … Roedd y fenyw drws nesa – rodd ‘i gwr hi yn nervous ofnadwy yn gweitho fel Security Officer lawr yr ICI. .. (Newyddion yn dod fod bom wedi cwympo ar yr ICI) … Roedd e wedi câl ‘i ladd.
Yr ail nosweth, wrth gwrs, dyma nhw’n dod ‘to – on i’n crynu o hyd. … Pan aethon ni mâs o’r shelter odd popeth yn goch - yr awyr yn goch i gyd. Cofio Anti Jen yn dweud ‘ O mae’r Library wedi mynd! Ma’r Glyn Vivian wedi mynd!’ … A’r trydydd nosweth wedyn wrth gwrs dod nôl ‘to nos Wener. Odd hi yn amser caled.

Torri’ch ysbryd chi mwy neu lai – odd y dre wedi mynd … Ma cymeriad Abertawe wedi mynd a dyw e byth wedi dod nôl. Byth wedi dod nôl. Roedd yr hewlydd yn gul, siope bach – lawer mwy cymdeithasol na mae e nawr. … Odd y farchnad wedi mynd yn llwyr … a capel mawr y Wesley .. a siop Sidney Heath.”



“Ond wrth gwrs y nosweth hyn pan ddaethon ni mâs o’r Ritz âth y seiren a medde’n ffrind Nansi wrtho i ‘Os ewn ni ar hewl fawr nawr bydd rhaid i ni fynd mewn i’r hen shelters ‘na’ medde hi, ‘gewn ni fynd lan yr hen hewl’. … On ni ddim yn becso dim amdano fe. On ni’n cerdded gartre, on ni’n meddwl dim. … Ond on ni ddim yn cofio – odd y sowldiwr lan ‘na â searchlights … a odd dryllie a popeth gyda nhw. A chmbod odd hi yn ‘Halt! who goes there?’. Wel, nâth hwnna hala ofan arnon ni. Wetws e - dim busnes ‘da ni fod ar hewl – rhaid i ni ddod mewn i’r shelter. Wel on ni ddim yn mynd i fynd mewn ‘da crugyn o ddynion nag on ni? ‘Dyn ni ddim ond yn byw yn fan’na’ medden ni, ‘dim ond man’na ni’n byw’. ‘ Go, quick, quick, go’ medde fe

Wel pan ddaethon ni nawr i‘r Lodge … âth bom … off wrth y Travellers .. ond odd e wedi’n whythu ni mewn i’r clawdd. … Geson ni ofan fan’na …Rheteg wetyn bob cam sha thre.”

[Tâp 8997 Mary Ann (Mair) Mathewson – Lon-las, Abertawe]



“I Abertawe aethon ni ar ein mis mêl, a chi’n gwbod, on ni’n mentro mynd i Abertawe – on nhw’n bomio Abertawe amser hynny. On i’n teimlo bod ni’n mentro – don i ddim am fynd yn bellach.”

[Tâp 9317 Esther Griffiths, bellach o Fallwyd, Meirionnydd ond yn byw yn Nhegryn, Penfro ar ddechrau’r rhyfel.]



GWRANDEWCH AR Y SGWRS HON RHWNG NEST DAVIES (Holwraig) a EUNICE HARRIES , PONTARDAWE (Tâp 8878)

“Chi’n cofio’r Blitz?

Ydw. Odd y docs yn câl ‘u targedo bob dydd bron chwel â’r plêns mawr hyn. Ond pan ddâth y Blitz etho i lawr ar y bys. Odd y bys ddim yn mynd ddim pellach na tu fâs i Abertawe, cyn bo chi’n dod i Dyfati. Och chi’n gorfod cered wedyn trw’r rybel i gyd – odd lle ofnadw ‘na. A Wine Street wedi câl direct hit chmod – hwnna ar llawr i gyd. A on nhw’n gweud bod dwsenni yn chwilo yn y rybel am bethe - achos jewellers odd yn Wine Street bryd hynny fwya. On nhw’n gweud bod e’n ofnadw. A odd y capel Wesle, wi’n credu odd e, Wesleyan Chapel , odd e ochor arall yr hewl i David Evans bryd ‘ny; odd hwnna wedi câl direct hit, odd tri llawr iddo fe , odd e’n le mawr iawn, a odd pobun odd yn y seler, plant ran fwya, fel air raid shelter odd hi , wedi câl ‘u lladd.”



(iii) CAERDYDD :

Eunice Iddles , Caerdydd [Tâp 9169] :

Bu Eunice yn nyrsio yn theatr ysbyty’r Royal Infirmary yn ystod y rhyfel :

“A wir geson ni flas o’r rhyfel yn Gaerdydd. Do, do, do a bomio a Jeri yn dod drosodd. …Wedyn fe geson ni incendiary bombs yn dod yn yr hospital. A on i’n gwitho bryd hynny , on i wedi dod nawr yn gyfarwydd â byd nyrsio, yn y theatr … gwitho fwya ar y pen yn neud craniotomy ac ar yr ysgyfaint … a câs hwnnw ‘i bomio … ond ‘na fe fi wedi dod trw’r cwbwl.

A bydden i’n mynd mâs wedyn falle yn y nos a bydde Jeri wedi dod grôs, fel on ni’n galw’r Almaenwr … a bydde wardens ambyti’r lle … ARP … a on i ddim yn cymryd lot o sylw ohonyn nhw a … ‘In the shelter, in the shelter. You can’t be out of the shelter’ …

Tair blynedd fel ‘na. … gwachau’r hospital wedyn ‘ny … os bydde’r claf wedi câl trinieth yn y theatr, beth och chi’n neud? Odd rhaid aros yn y gwely ond och chi’n dodi padell olchi ar ‘i ben e wedi ‘ny chi’n gweld,…lle bo’n nhw’n câl rhyw anaf ... Do, gethon ni amser bach diflas.”



(iv) AMRYWIOL :

“Diflas iawn. Oeddach chi’n clywed y German bombs ’ma yn mynd drosodd . Oeddan ni’n Dinas Mawddwy hyd yn oed yn clywed nhw , oeddan ni’n gwbod y gwahaniaeth rhwng y German planes a rhai ni, achos odd swn trwm, trwm arnyn nhw’n cario lot o bombs i fynd am Lerpwl ’de.”

[Tâp 9367 Agnes Jones, Bryn-crug, Meirionnydd]



“On i’n ddeg mlwydd od a on i yn yr ysgol yr adeg syrthiodd y bom yn y pentre, ch’mod. Odd yr ysgol, a’r eglwys ar yr ochor draw, a syrthiodd y bom yr ochor draw i’r eglwys. a ‘na gyd ‘yn ni’n gallu cofio yw’r athro yn gweud wrthon ni am fynd o dan y desgie ar un waith. A odd partition glass gyda ni yn bob dosbarth, rheiny’n dod mewn i gyd. A mynd getre, a mynd lawr i’r steshon, a bob ty â’u ffenest a’r glass wedi sathru arno fe i gyd. A cofio gorfod mynd yn ganol y nos, pan odd y seiren yn mynd, i’r Air Raid Shelter – i cwtsh glo cymdoges drws nesa, Miss Rees, a fan ‘ny bydden ni gyd yn mynd.”

[Tâp 9157 Margaret Valerie Jones, Brynaman]
  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.