Cwpons da-da/ losins /fferins:

“Fydda ’na siop fach yng ngwaelod yr allt o’n ysgol ni, Siop Bren, a munud oeddan nhw’n gwbod bod ’na dda-da wedi dod i mewn i Siop Bren oeddan ni’n mynd yno amsar chwara a ciw mawr tu allan, ac ella mai lozenges odd rheini a Victory Vs, ag oeddan ni’n gneud iddyn nhw bara’n hir iawn. A rhannu. Ew, odd ganddoch chi fwy o ffrindia pan oedd ganddoch chi gwpons.” [Tâp 9627 Glenys Pritchard, Porthaethwy, Môn]



“Doedd ’na’m gwerth o da-das, fferins a phetha felly, ac wedyn be oeddan ni’n neud, a deud y gwir yn onast, odd mynd drosodd i gae odd yn tyfu moron. Oeddan ni’n mynd dros y wal i fan’no, tynnu’r moron ’ma a’u golchi nhw a torri nhw. W, oeddan nhw’n fendigedig.” [Tâp 9735 Nesta Thomas, Y Groeslon, Arfon]




GWRANDEWCH AR ANN ROSSER, Lon-las, Abertawe, [Tâp 8915] yn cofio’r prinder siocoled a’r banana cynta welodd hi wedi’r rhyfel :

“Wi’n cofio’r banana cynta yn dod i’r stryd a fuss fawr am hwnna a mewn ffordd on i’n siomedig – on i ddim yn gweld lot yn yr holl beth ar ôl yr holl fuss. Wi’n cofio – chi’n gwbod y bocsys Black Magic, wel yn ty ni … odd ‘na focs hyfryd â rhuban coch arno fe a wrth gwrs dim chocolates yn y bocs. A odd llun y siocledi gwahanol ‘ma ar y clawr a wi’n cofio ishte ac edrych am orie ar yr hen glawr ‘na a dychmygu beth fydde câl chocolate orange cup a coffee cream a’r holl bethe ‘ma.”


Dogni Bwyd: GWRANDEWCH AR MATTIE REECE, Pontardawe, gorllewin Morgannwg, [Tâp 8879] yn egluro wrth Nest Davies beth yn union oedd y rations bwyd a’r farchnad ddu :

“Chi’n sôn am amser rhyfel, allwch chi sôn yn fwy am y rations? Fel odd ‘ch mam yn ymdopi ‘nawr â’r bwyd?

Wel, och chi’n câl dwy owns o fenyn yr un, a och chi’n câl cwarter pownd o fargarîn, hanner pownd o siwgwr, a fi’n cretu taw un wy … pan fydde wye’n dod miwn, a cigmoch a cig … fi’n cretu och chi’n câl gwerth dwy geinog neu grot o corned beef neu rywbeth, chmbod. Ond on ni’n catw moch … a ffowls amser rhyfel so odd hwnna’n ‘neud lot o wahanieth.

Wel ar y black market, chi’n gweld, odd popeth i gâl. A jiw on nhw’n mynd â nw (moch) mewn ambiwlansys a mewn hers a phopeth – mynd â moch … a wrth gwrs odd menyn a popeth i gâl ar y farchnad ddu – odd e gâl os och chi’n fodlon talu amdano fe.”



Bu Mareth Lewis {LLUN} o Lanelli [Tâp 8913 ] yn dweud wrth Ruth Morgan amdani’n mynd adre i’w chartre yng Ngwrtnewydd, Dyffryn Teifi adeg y rhyfel ac yna’n dychwelyd i’w lodgings yn Llanelli :

“Chi’n cofio yn ystod y rhyfel, och chi’n mynd gartre, och chi’n gweud. Och chi’n dod nôl â unrhywbeth?

On ni’n dod nôl â menyn ffarm, ond on i ddim yn gweld y menyn. Odd y fenyw on i’n byw gyda, odd hi a’r teulu’n byta’r menyn i gyd. A on i’n dod â ambell i ffowlyn, a beth arall? O wye, lot o wye.”

EDRYCHWCH hefyd ar GERDYN ADNABOD Mareth Lewis – roedd yn rhaid i bawb gario un fel hyn gydol y rhyfel.


Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy

“Os oeddach chi efo llyfr rations glas, hynny ydi os oeddach chi’n blentyn, oeddach chi’n cael bananas ... Oeddach chi’n ciwio am hyn, a chiwio am llall, a disgwyl yn y rhes nes oeddach chi’n cael eich dogn.” [Tâp 9638 Môn]



“Wchi adeg rhyfel be’ oeddan ni’n gâl odd condensed milk. Wedyn gwneud bechdan efo condensed milk...Oeddan ni’n mynd i’r pictiwrs ar nos Wenar, odd ganddon ni ddim cwpons i brynu petha da...wedyn mynd i ardd ’y Nhad ne’ Yncl John drws nesa a mynd â gwsberis efo ni i’w byta yn y pictiwrs...” [Tâp 8976 Elen Evans, Garndolbenmaen, Dwyfor]



“Doedd ’na’m llawar o ddewis. Bwyd cyffredin iawn oedd yna. Dwi’n meddwl fuon ni fel teulu yn ffodus iawn bod Mam yn gogyddes arbennig o dda, a bod hi’n medru gneud rhwbath allan o ‘chydig, mewn ffordd.”
[ Tâp 9425 Beti Eurfron Hughes, Llanaelhaearn, Dwyfor]



“Dwi’n cofio’r llyfr rations. Ryw lyfr lliw hufen oedd o. … Ond ’da chi’n gweld, am bod gynnon ni dwy neu dair buwch odd gynnon ni bob amsar lefrith. Odd Mam yn gneud menyn. Odd gynnon ni ieir, wyau. Odd gynnon ni ardd...odd gynnon ni bob amsar datws. Dwi’n cofio, odd gynnon ni rês o gwsberis, mi odd gynnon ni goed eirin, mi odd gynnon ni gerllyg, fala, mi odd gynnon ni bys yn tyfu yn ‘r ardd, cabaits. Oeddan ni fatha bron iawn yn hunan-gynhaliol amsar honno ’de. Ar wahân i ffrwythau fel orennau a ballu. Ond wrth gwrs, oeddan ni’n gneud y mwya, amsar y rhyfal oeddan ni’n mynd o gwmpas i hel hips – rosehips. Ag oeddan ni’n câl, dwi’n meddwl, os dwi’n cofio’n iawn tua chwe cheiniog y pwys …Odd Nain yn un dda ofnadwy efo ryw betha felly – odd hi’n medru gneud syrap allan o hynny.” [Tâp 9396 Môn]



“A dwi’n cofio mynd i’r Food Office `ma, i nôl y Cod Liver Oil a’r Orange Juice. Ac oeddan ni’n câl Horlick’s Tablets yn ‘r ysgol, amsar chwara, i gadw’n iach.” [Tâp 9180 Alun-Dyfrdwy].



EDRYCHWCH AR LUN YR YMGYRCH I HYRWYDDO IECHYD MAMAU A BABANOD WEDI’R RHYFEL TRWY’R GWASANAETH BWYD MAETHLON, CAERNARFON, 1951.
Yn eistedd yn y blaen y mae Miss Hobson, ymwelydd iechyd, Mrs Madoc Jones, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Bwyd Gwyrfai) a Miss H. Evans, ymwelydd iechyd.(trwy garedigrwydd Gwyneth Edwards, Y Bermo)


Cliciwch yma i wneud yn fwy



A sut oedd ymdopi ar adeg priodas yng nghanol y fath brinder?

“Yn adeg rhyfel nesh i briodi, nineteen forty two, ag oeddwn i methu cael ffrwyth i neud ’y nghacan, a mi odd ’na baker oeddan ni’n digwydd ’i nabod, a mi nâth o neud jest un layer, a doedd ’na ddim icing sugar i’w gael, ond os oedd gynnoch chi doeddach chi’m i fod i’w iwsho fo. So mi nâth o neud chocolate icing drosti i gyd.” [Tâp 9710 Gwladys May Roberts, Llanbedrycennin, Aberconwy]



Ac am rai blynyddoedd wedi’r rhyfel parhaodd y dogni fel y cofia Ann Roberts , Penybont-ar-Ogwr yn rhy dda [Tâp 9247 ganwyd Llanwddyn ac yn priodi ger Caernarfon]

“ … buodd rhaid i ni gael tystysgrif arbennig o’r Swyddfa Bwyd i gael caniatâd i gael y pobydd yn Bangor i wneud teisen (briodas) ...roedd hi’n dair teisen, un fawr ar y gwaelod, un gymhedrol yn y canol ac un fach ar y top.”



Ac fe ddengys *LLUN CACEN BRIODAS Dilys Davies, Aberdâr [Tâp 9835] iddi hi lwyddo, yn 1949, er gwaetha’r dogni i ddathlu mewn tipyn o steil:


Cliciwch yma i wneud yn fwy

“… dâth hanner y stwff i `neud hi o Canada, on ni ffili câl. Odd modrybion gyda fi mâs `na a on nhw’n hala icing sugar a ground almonds, ie. A odd ffrind drws nesa, odd `i thad hi â contacts, odd e’n gwitho yn y Post. Wel, cafodd e tunie o gig, chmod, fel brisket beef neu rhywbeth fel `na, a dim ond trwy lot o help `da nhw…A ceso i’r Frecwast yn hall – odd lot o waith i Mam, ond ceso i Reception beautiful…



EDRYCHWCH AR FIL BRECWAST PRIODAS GWESTY’R ‘PRINCE OF WALES’ CAERNARFON 1947 – pan oedd dogni yn dal yn ei rym.(trwy garedigrwydd Eirlys Williams , Deiniolen)


Cliciwch yma i wneud yn fwy



Cwpons dillad:
Yn ôl Jennie Iforian Jones, Porthaethwy, Môn [Tâp 9808] ceid hyn a hyn o gwpons dillad mewn blwyddyn ac roedd angen 7 ohonynt i brynu ffrog; 2 am bâr o sanau a 5 am bâr o esgidiau.



“… gorfod gwneud defnydd o betha. Ail-ddaffod petha i wneud trowsus i’r hogia ne’ gôt fach allan o hen gôt. Ac os oedd ganddoch chi rwbath wedi’i wau, ail-ddaffod y gwau i gael pethau er’ill.” [Tâp 9200 Nancy Byrne, Nefyn, Dwyfor]



“Y neilons ’ma – o’dd rheini yn betha prin ofnadwy, wchi. Dwi’n cofio cael rhai – rhai yn dod gynta gan berthynas i Mam yn ‘Merica wchi, w, a meddwl mod i’n ‘it’.” [Tâp 9425 Beti Eurfron Hughes, Llanaelhaearn, Dwyfor]



“Odd isho cwpons i bob peth ‘toedd? … pâr o sana silk yn Woolworth am swllt …Ond doedd ‘na ddim cwpons, nagoedd. Wedyn be oeddan ni’n neud oedd rhoi gravy browning … ar ein coesa, wchi, a tynnu lein i fyny o ganol ych sowdwl i fyny i dop ’ch coes i ddangos bod gynnoch chi sanau fully-fashioned. Dillad dydd Sul oedd yn gneud dillad gyda’r nos ‘te? Oeddan ni’n real frumps” [Tâp 9306 Pegi Lloyd Williams, Blaenau Ffestiniog, Meirionnydd]



A chofia Marlis Jones, Bro Cyfeiliog, Maldwyn/Powys [Tâp 9611], ond o Fethesda yn wreiddiol, rwystredigaethau y prinder dillad a bwyd Doedd dim bananas yn y siopau lleol ond roedd rhai ffug yn hongian uwchben ac roedd y rhain ‘fel greal sanctaidd allan o gyrraedd rhywun’. Ac o safbwynt gwau, doedd dim modd cael edafedd iawn ond gellid cael yr hyn a elwid yn yarn – rhyw ffug gotwm a oedd fel llinyn i’w wau.



Prinder dur:
Priododd Arfona (Vona) Jones, Gorseinon, gorllewin Morgannwg, [Tâp 8882] yn 1939 a gweithiai ei gwr yng Nghwaith Dur y Beaufort, Glyn Ebwy. Dechreuon nhw eu bywyd priodasol heb cooker gan fod yr holl ddur wedi mynd at yr ‘ymdrech ryfel’.



Diwedd y dogni:
“Un peth diddorol am y ration – pan oedd o’n gorffen, ymhell ar ôl y rhyfel...wedyn dyma nhw’n penderfynu bod yn bryd i ni ddod oddiar y ddogn fferins, a dyma pobol yn mynd yn hollol berserk drw’r wlad i gyd, wchi. Odd ’na ’m un fferen ym Mhrydain i gyd, wchi. ’Aru pawb brynu bob dim dan haul...Doedd ’na’m byd i’w gael. Am bythefnos, oeddach chi’n methu cael dim byd o gwbwl. Oedden nhw’n gorfod rhoi ni nôl ar ration.” [ Tâp 9318 Carys Humphreys, Bangor]
  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.