Yr Ail Ryfel Byd
  

 

I ddathlu’r mileniwm, penderfynodd Merched y Wawr, mewn partneriaeth â Choleg y Drindod, Caerfyrddin ac Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan lansio prosiect hanes llafar i gofnodi profiadau menywod Cymru rhwng 1920 a 1960.

Gyda chymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri aethpwyd ati i recordio 1000 o dapiau gan aelodau ym mhob cwr o Gymru am wahanol agweddau o’u bywydau – fel cofnod ar gyfer haneswyr y dyfodol.

Ar y tapiau mae’r menywod wedi sôn am bob math o bethau : eu teuluoedd, caru, priodi a chael plant, eu haddysg, gwaith, amser hamdden a gwleidyddiaeth. Mae’r lleisiau yn cynnig darlun byw o fywyd au menywod yng Nghymru tua chanol yr ugeinfed ganrif.

Pwyllgor Llywio'r Prosiect
Cefn: Sharon Owen a Ruth Morgan (Swyddogion Maes);
Blaen: Cerys James (Swyddog Cyllid); Dr. Beth Thomas (AWC); Catrin Stevens (Cyfarwyddwr); Tegwen Morris (Trefnydd Merched y Wawr).

  
© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.