Cartref  |  Addysg Caru, priodi a byw Menywod wrth eu gwaith Cymreictod a Merched y Wawr Yr Ail Ryfel Byd
  

'Y Llwybr Cul?'

‘Odd capal yn bwysig iawn i ni. Pwysig iawn, argol oedd. … Oeddan ni’n byw yn capal jest, doeddan?’
[Megan Morris, Dinorwig]

‘Capel bach, unllawr, ond – oedd e’n bopeth i ni. On ni’n cal magwrfa fan’ny – eithriadol. On ni’n byw a bod `na. On ni’n mynd `na fel `sen ni’n mynd gartre.’
[Valerie James, Brynaman / Caerfyrddin]

‘… Odd rhaid i chi fynd i’r capal, `doedd? Dyna oedd `ch byw chi `nde? Odd byw yn dda yn bwysig iawn , doedd? … Yn y cyfnod hwnnw odd pawb yn mynd wchi, ac os nag oeddach chi’n mynd oeddach chi allan ohoni.’
[Ellen Vaughan Ellis, Y Ffôr]

‘Yn Llanelli - ar nos Sul gweld y cannodd at gannodd o bobol yn dod mâs o’r capeli hyn. Odd tua mil yn dod mâs o Seion, capel y diweddar Jubilee Young; Moreia; Tabernacl – odd y lle’n ddu.’
[Mareth Lewis, Llanelli ar ‘Barclod Ffedog a Brat’, Radio Cymru – Medi 2002]

Dyna rai dyfyniadau o’r miloedd a gasglwyd trwy’r Prosiect Hanes Llafar ar
thema’r adran hon – sef dylanwad crefydd a’r capel ar fywydau menywod oedd
yn siarad Cymraeg yng Nghymru rhwng 1920-60. Fe dystiodd bron bob menyw a
holwyd fod y capel (neu’r eglwys) wedi chwarae rhan gwbl ganolog a chreiddiol
yn ei bywyd.

Ysgol sul Capel Nasareth, Pontiets c.1954
Chwiorydd Capel Nasareth Pontiets c.1954

Mae’r darluniau o YSGOL SUL CAPEL NASARETH, PONTIETS a CHWIORYDD CAPEL NASARETH, PONTIETS yn cyfleu peth o’r bwrlwm a fu.

Ond mae tuedd heddiw, â’r cof am y bwrlwm mawr hwnnw yn graddol bylu, i ystyried mai profiad cul a chaethiwus oedd crefydda i fenywod `slawer dydd, ac mai ar hyd ‘llwybr cul’ y troedient. Bydd y cyflwyniad hwn yn cwestiynu dehongliad simplistig o’r fath.

Er bod pob siaradwraig bron yn tystio i bwysigrwydd y capel roedd y profiadau’n amrywio yn fawr o siaradwraig i siaradwraig, o gapel i gapel ac o enwad i enwad.
 
Capel Rhydwilym, Sir Gaerfyrddin.

Cofia Ann John o gangen Beca, Penfro, y tynnu coes ymhlith plant am y gwahanol enwadau.
  

A beth am :
Methodistiaid creulon cas
Mynd i’r capel heb ddim gras
Gosod seti i bobl fawr
Gadael tlodion ar y llawr.

neu : Eglwys, eglwys, penne sofft
Bildo eglwys heb ddim lofft.
[Beryl George, Capel Newydd]


Er ein bod ni wedi holi sawl eglwyswraig bybyr a chadarn mae’n rhaid cyfaddef fod yr anghydffurfwyr wedi dominyddu’n harolwg ni. Wedi holi’r cwestiwn pryfoclyd , ‘Fyddech chi’n dweud fod gwahaniaeth rhwng y rhai oedd yn mynd i’r capel a’r rhai oedd yn mynd i’r eglwys?’, fe gawson ni ambell ateb pryfoclyd a dadlennol; fel disgrifiad Doreen Davies o Langyndeyrn o wraig y ficer: :

‘A chwedyn bydde fe a’i wraig yn dod wedyn bob dwedwch ryw dri mis i gâl te ar ddydd Mowrth. Odd diwrnode arbennig ‘da nhw chwel. A odd Mrs Williams shwt lady – diar diar odd hi’n swanc, real swanc a menyg bach gwyn ar ‘i dwylo hi; a mam wedyn yn ‘neud te iddyn nhw yn y gegin ore …. odd chauffer ‘da nhw … a morwn … odd y forwn yn gwisgo ffedog lês a cap lês ar ei phen… morwn ficrej – odd hi’n substantial.’

Mae’n ddiddorol nodi hefyd fod llawer o’r siaradwyr yn dweud nad oedd enwad yn bwysig iddynt mewn gwirionedd ac mai dilyn arfer teuluol a wnaent wrth fynychu lle arbennig o addoliad. Prin iawn oedd y siaradwyr hynny , fel Mari Wyn Jones, y Parc, a deimlai iddi brofi rhyw fath o drobwynt personol yn ei bywyd wrth wrando ar Doctor Martin Lloyd Jones yn pregethu yng Nghapel Mawr, y Bala.

Wrth holi, wedyn, pwy oedd y bobl oedd yn cael eu parchu fwya yn y gymdeithas, deuai’r gweinidog a’r ficer i’r brig – gyda’r ysgolfeistr – ac ymhell uwchlaw y sgweier neu’i wraig. Ac yr oedd parch, statws ac urddas arbennig yn perthyn i wraig gweinidog gan amla – a chai ei thrin weithiau bron fel petai’n jwg ar seld , gan ddyfynnu un a gafodd y profiad, Nan Lewis, Nantgaredig :

‘Roedd `na brotocol pendant, a hefyd roedd `na ofynion pendant i fod yn wraig gweinidog. Yn sicr, roedd `na ddisgwyliadau bo’ chi’n wahanol. Ac on i’n ffindio hi’n anodd iawn bo fi wedi mynd o fod yn ‘Nan’ i bawb i ‘Mrs. Lewis’. A fues i’n Mrs. Lewis siwr o fod am ddeng mlynedd ar hugen.’

Roedd sawl un yn hynod ddiolchgar am arweiniad gwraig y gweinidog – yn yr Ysgol Sul, gyda’r chwiorydd; gyda’r ieuenctyd ac yn y blaen. Un agwedd a gafodd ei phwysleisio droeon yw’r addysg a geid trwy fynychu capel neu eglwys. Er nad oedd sawl un o’r menywod a holwyd wedi cael fawr o addysg ffurfiol roeddent yn gwybod eu Beiblau, yn gallu adrodd adnodau, penodau, salmau, ac emynau ar eu cof - yn cofio sefyll dwy awr o arholiad Ysgrythurol yn y festri
ac yna’r pleser o lwyddo a chael llyfr Cymraeg fel ‘Teulu Bach Nantoer’ yn wobr.

Ac roedd y cyfan yn y Gymraeg orau bosibl – y ddwy elfen – crefydd ac iaith yn annatod ynghlwm. Yn wir, bu’r capeli Cymraeg a’u gwasanaethau yn fodd i gadw’r iaith yn fyw mewn dinas fawr fel Abertawe neu dref dwristaidd fel y Rhyl. Ac i’r rhai y bu’n rhaid iddynt adael Cymru i weithio yn Lloegr roedd cymdeithas y capel Cymraeg yn lleddfu peth o’r hiraeth, ac yn gartre croesawgar oddi cartre. Dyma dystiolaeth Mair Roberts, Dinas, Llyn :

‘Ma’ capel Cymraeg mewn dinas yn Lloegr yn brofiad bendigedig, ‘de. Bendigedig. ‘Sgen pobol sy’n byw yng Nghymru ddim syniad … ma’ miloedd a miloedd o Gymry yn mynd i Loegr … mae ‘na rai sy’n trafaelio tri-deg o filltiroedd i gapel a tri-deg o filltiroedd nôl adra wedyn … ma’n nhw’n pasio peth wmbreth o addoldai Saesneg, ond ma’n nhw isio crefydda yn Gymraeg’

Fe gafwyd llawer o hwyl wrth holi am nodweddion arbennig y Sul Cymreig – a oedd yn dechrau, wrth gwrs, ar y nos Sadwrn cynt gyda’r holl baratoadau : golchi’r pasej; sychu carreg yr aelwyd; cario dwr i’r ty o’r ffynnon; glanhau ‘sgidiau; crafu tatws a llysiau a choginio’r cig, ‘achos odd y Sul i gadw’r Saboth’. Doedd wiw gwneud unrhywbeth ar y Sul. ‘Dim ond beth oedd raid’, sef bwydo’r anifeiliaid a godro, oedd hi ar ffermydd,. Wnai menywod ddim meddwl am wau , na gwnïo – dim codi siswrn na phwytho botwm hyd yn oed; a chai plant ddim chwarae allan na chwarae pêl; ond fe gaen nhw chwarae capel neu angladd. Doedd dim fod chwibanu na darllen ‘sothach’ fel papur newydd ‘chwaith (er y gellid ei ddarllen e ar ddydd Llun) – dim ond y Beibl neu Drysorfa’r Plant a hwnnw yn llawn marwnadau i blant a babanod bach.

Eto cofiai siaradwraig o’r Bala, sut y byddai hi a’i mam yn dianc i orffwys ar eu gwlâu brynhawn Sul – ymhell o lygad barcud caeth ei nain – y naill i ddarllen ‘Rainbow’ a’r llall, ‘Woman’s World’!

Mae’n debyg ei bod yn anodd iawn i’r faciwîs a ddaeth a’u diwylliant Seisnig a threfol ’w canlyn i gefn gwlad Cymru adeg yr Ail Ryfel Byd i ddirnad nac amgyffred natur y Sul Cymreig. Dywed Mair Garnon James hanesyn sy’n darlunio’r bwlch diwylliannol a fodolai bryd hynny - rhwng y plentyn o Kent a gwraig grefyddol o Landudoch. Gofynnodd y faciwî yn ddiniwed ddigon , a hithau’n nos Sadwrn a gwraig y ty wrthi’n prysur baratoi ar gyfer y Sul, ‘When are you going out?’ A’r ateb fel bwled i’r tlawd di-glem oedd ‘Out where?’.

Unig WAITH y Sul felly, oedd cerdded (filltiroedd yn aml) yn ôl ac ymlaen i’r cwrdd dair gwaith, er y byddai mam yn aros gartre i wneud y cinio yn aml yn y bore. A’r cinio hwnnw yn un arbennig – yr unig dro y ceid cig ffres ar y menu mewn wythnos. Ac y mae traddodiad y cinio dydd Sul - yn gig a thatws a llysiau a grefi yn dal yn fyw heddiw er bod y pwdin reis wedi’i danseilio mewn llawer cartre bellach. A beth am y jeli, y blancmagne neu’r tun ffrwythau a’r Ideal neu’r condensed milk i de dydd Sul fel watsh? Roedd y profiad a ddisgrifia Beryl Hughes. Rhydypennau yn un gweddol gyffredin hefyd. Yn sicr roedd mynychu’r ysgol Sul yn addysg ac yn brofiad cymdeithasol-grefyddol holl-bwysig ym mywydau mwyafrif llethol y rhai a holwyd.

  
Dosbarth ysgol sul Capel Newydd y Betws, Rhydaman c.1955

Rhwng bob cwrdd roedd yn rhaid newid dillad – rhag difetha’r dillad parch, y dillad dydd Sul gorau – y got neu’r ‘gostume’, y menyg, y ‘sgidiau a’r het :

‘Dwi’n cofio sbïo ar wahanol hetia fydda ni – ew! a phobol efo hetia neis. A ffansïo hwn a ffansïo llall’. [Beryl Roberts, Trefor]

‘Fysa chi ddim yn meiddio mynd i capal heb ddim het … hyd yn oed y plant’. [Mair Eluned Price, Chwilog]

a’r merched yn gwisgo fersiynau llai o ffasiynau eu mamau. Efallai bod edrych o gwmpas ac edmygu’r ffasiynau yn helpu i basio’r amser mewn oedfa faith. Yn sicr gallai oedfa ymddangos yn hir a diflas i sawl un o’r siaradwyr pan oeddent yn blant :

‘Odd o’n boring, cofiwch. Odd ‘na ryw bregetha hir, wchi, yn mynd dros ein pennau ni, ‘de? Oedd, Odd o’n sobor o boring!’ [Beti Williams, Llangwyllog]

Ond gwyddai sawl un, fel Nan Lewis o gangen Nantgaredig yn iawn sut i ddifyrru’i hun.

A dw i’n cofio ‘chmbod mynd i’r capel i Oedfa’r Nos a gwbod ‘mod i ‘di cysgu ‘mhell cyn bod y bregeth yn dod a ma hynny’n golygu ‘mod i’n mynd i’r capel yn gyson ac yn ffyddlon ymhell cyn bo fi’n saith. A dw i’n cofio pethe fydde’n ni’n neud yn capel – yn y cyfnod hynny och chi’n gneud llygod bach mâs o nisied ‘chmbod, whare â llygod bach ar y set. A wedyn ‘ny, O! cofio wedyn ‘ny bydde Fox Fur gyda Mama rownd ‘i hysgwydde a whare â ceg y Fox Fur.

Fydden ni ddim yn cal mynd a losin, ag on i’n berffeth dawel, dw i’n gwbod bo fi’n berffeth dawel, nid bo fi ddim yn blentyn bisi, achos on i, ond rhywbeth, och chi’n synhwyro bo chi i fod yn dawel yn y capel ac os nag och chi’n dawel och chi’n gwbod mai pinshed gaech chi. [NAN LEWIS, Cangen Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin]

Yna, nos Sul, a’r diwrnod prysur di-waith yn dirwyn i ben, cofia sawl siaradwraig am fynd allan am dro yn yr haf. Cerdded yn dyrfa, lan a lawr y prom wnai pwysigion Aberystwyth; ac yn y gaea – ymgasglu yn deuluoedd o gwmpas y piano i ganu mewn harmoni.

Er mor gyfyng a chaeth yr oedd y rheolau ynglyn â’r Sul yn y cyfnod hwn doedd y mwyafrif ddim yn meddwl gwingo yn erbyn y symbylau.

Roedd dylanwad y capel yn llywio holl weithgareddau’r wythnos; fel y clywn gan Deilwen Jones o gangen Drefach, Llanelli, ond yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog.

Yn sicr yr oedd yr elfen berfformio a chystadlu yn gryf a bron bob capel yn cynnal cyrddau cystadleuol ac eisteddfodau. Ac roedd yn rhaid ymarfer tuag atynt fel yn Eisteddfod Chwe Chapel Brynaman. At hyn roedd cymryd rhan mewn dramàu, operàu, cantatas a chyngherddau yn elfennau byw i’r aelodau. Ceid addysg gerddorol yn ogystal trwy’r dosbarthiadau tonic solffa a llwyddiant i rai mewn arholiadau.

Er nad oedd cymaint o weithgareddau wythnosol ar gyfer plant a menywod yr eglwys, roedd cymdeithasau fel Undeb y Mamau a’r Girls’ Friendly Society yn denu a rhai capelwyr yn eu mynychu, er eu bod yn cael eu cynnal yn aml yn Saesneg.

At hyn, yr oedd GWYLIAU pwysig yn ystod y flwyddyn. Roedd y te parti neu’r social adeg y Nadolig yn hynod boblogaidd, ac roedd y TRIP YSGOL SUL yn uchafbwynt wrth gwrs. Fe barhaodd y trip yn ei fri yn sicr drwy’r chwedegau ac erys yn atyniad mewn sawl capel hyd yn oed yn yr unfed ganrif ar hugain.

Roedd y GYMANFA hithau, adeg y Pasg neu’r Sulgwyn, yn uchafbwynt cymdeithasol – yn gyfle i arddangos niferoedd a dillad newydd, ac i fartsio yn dalog â baneri, fel yn ardal Rhydaman.

Un o effeithiau yr holl fwrlwm yma yn y capeli oedd bod plant yn dysgu cymryd rhan yn gyhoeddus, y merched yn ogystal â’r bechgyn. Ac yna deuai yn amser i’w derbyn yn aelodau cyflawn o’r capel, ‘Och chi’n teimlo bo chi wedi tyfu lan rywffordd’ meddai un siaradwraig. Ac roedd y capeli YN cydnabod effaith tyfu lan – cofia Rachel Thomas o’r Groeslon sut roedd hi yn
edrych ymlaen at fod yn 14 oed er mwyn cael ymuno â’r Gymdeithas Lenyddol. Y drefn wedyn oedd bod y bechgyn a’r merched yn cael eu gwahanu ac yn mynd i ddosbarthiadau ar wahân yn yr ysgol Sul, ac yn y capel byddai’r merched yn suddo nôl i’w seddi ac yn derbyn fwyfwy y rôl draddodiadol ddisgwyliedig.

Ond er bod y merched a bechgyn hyn ar wahân yn eu dosbarthiadau ar y Sul, roedd digon o gyfle i bobl ifanc gymysgu, a chwrdd â’i gilydd, fel y clywn gan siaradwraig o gangen Tryweryn.

Ges i ddim fy ngorfodi i fynd i’r capel erio’d. Ond odd hi’n hwyl i fynd i’r capel, cofiwch chi. Yn fan’ny o’n i’n cwrdd â’n ffrindie. Mynd i’r capel er mwyn cwrdd â ffrindie o’n i’n wneud, ag o’n i’n galler siarad â bechgyn yn y capel heb gael detention, yn do’n ni? [Siaradwraig o ardal y Bala]

Fyddai rhywun ddim yn gor-liwio petaen ni’n dweud fod yr addoldai bryd hyn yn gweithredu fel ‘marriage bureaux’. Yn sicr, roedd orielau’r capeli yn fannau cyfleus iawn i lygadu ambell fachgen golygus, fel y dengys stori Sali Evans o’r Felindre ger Pontarddulais. Sonia hefyd am yr arfer o fynd ar y ‘MONKEY PARADE’ wedi oedfa; arfer a elwir mewn rhannau eraill o Gymru, yn llyfnu, sodli, neu’r ‘bunny run’ yn Nhreforys. Yn achos Sali aeth hi yn ei blaen i briodi ei chymar ar y ‘monkey parade’.

A wedyn ‘ny odd cwrdde mawr yn Felindre – on i’n mynd ar ‘n ddwy ar bymtheg nawr, a odd Cwrdde Mawr yn Felindre un nos Sul (odd Cwrdde Mawr nos Sul pr’yny a nos Lun). Ond nos Sul nawr odd dou fachgen bach o’r Bont wedi dod lan ‘chmbod i’r capel – wedi dod lan i’r cwrdde mawr on nw wedi neud a on nw’n ishte nawr ar ochor y galeri ‘chmbod fan’na, a on i a’n ffrind nawr ar ffrynt y galeri ‘ntefe. On i’n amcanu pwy on nhw ‘chmbod on dyna gyd on i’n bechingalw. … Wel ar ôl dod allan o’r capel on ni’n mynd am wâc – odd monkey parade wedyn ‘ny draw ar ffordd i Bontarddulais o Felindre a on ni’n dwy yn mynd nawr a odd hi’n y gaea chi’n gweld.

 


  
Beth odd y monkey parade ‘te Sali?
Wel ‘na ble on i gyd yn mynd ar ôl cwrdd. Cerdded draw am wâc i Mynydd y Gopa fan hyn ‘chmbod a wedyn odd gwyr y Gopa yn dod lan i gwrdda ni fan’na ‘chmbod – wedyn ishte a câl chat ar y mynydd fan’na.

Ond y Sul hyn dâth y ddau fachan hyn ar ‘n (g)ôl ni a ta p’un ‘ny – jiw a dechre chatan lan nawr a digwyddws nawr wrth gwrs – âth un fel hyn ‘da fi a’r llall ‘da’n ffrind. A odd cwrdde mawr nos Lun nawr efe a on i ddim mor keen i fynd i’r cwrdde mawr ar nos Lun – ond odd e’n sbesial nosweth hyn nawr wath on nw’n mynd i ddod lan a ‘ta p’un ‘ny on nhw lan yn y cwrdde mawr.

A wi’n cofio’n grand mynd tua thre’r nosewth ‘ny. A medde Mam wrtho i ‘Jiw odd dou fachan bach teidi’n ishte ar ochor y galeri’ medde hi ‘nithwr yn y cwrdd’. ‘Odd e?’ medden i. ‘Odd – Wyt ti ddim yn gwbod pwy on nhw?’ Nag on i - ddim yn gwbod pwy on nhw – ddim o gwbwl. A cas hi ddim gwbod beth bynnag!

[SALI EVANS, Cangen Pontarddulais, Gorllewin Morgannwg]

Yn y Gymru Gymraeg treiddiai’r gwerthoedd ymneilltuol a ddysgid trwy gymdeithas y capeli trwy holl ymarweddiad y menywod a holwyd. DISGYBLAETH, DARBODAETH a DEFOSIWN – dyna dri gair oedd yn crisialu’r gwerthoedd anghydffurfiol hynny.
DEFOSIWN : oherwydd roedd hi’n arfer i ‘gadw dyletswydd’ ar yr aelwyd yn ogystal ag addoli yn y capel; fel y disgrifia Grace Jones, Chwilog.

Ac mae stori hyfryd gwraig o Lanfaelog, Môn, yn profi pa mor bwysig y cyfrifid dweud gras cyn bwyd ‘slawer dydd.

DARBODAETH : roedd bod yn ddarbodus yn sicr yn rhinwedd Gristnogol, anghydffurfiol amhrisiadwy; gyda chapeli yn trefnu clwb cynilo mewn ambell ardal, yn ôl disgrifiad siaradwraig o’r Bala. Ac mae cynilo trwy’r ‘Penny Bank’ yn dal yn ei fri hyd yn oed heddiw.

Cyfarfod gweddi ar nos Lun, cyfarfod y plant o’i flaen o, a cyn hynny, roedd `na bobl yn hel arian, Clwb Cynilo, capeli’n rhedeg – ma nhw’n dal, dwi’n meddwl, i redeg Clwb Cynilo, o’dd o’n bwysig yr oes honno, achos dyna sut oedd bobl yn talu rhenti ac ati bob hanner blwyddyn, roedden nhw’n hel yr arian, a’r capel yn cadw’r Clwb Cynilo `ma iddyn nhw, te. Oedd hwnna i gyd ar nos Lun.

[Siaradwraig, ardal Y Bala]

Ac yna DISGYBLAETH – yr agwedd fwya dadleuol o ddylanwad y capel a gwerthoedd ymneilltuol. Dechreuai’r trwytho yn gynnar yn y Band of Hope, lle disgwylid i blant bach bledio achos dirwest a thyngu llw i fod yn llwyr ymwrthodwyr.

Gwrandewch ar Sara Owen, Pentre Tafarnyfedw, Llanrwst yn adrodd y llw hwnnw ar ei chof.

Ar y llaw arall i Urdd yr Eirlys y perthynai Sylwen Davies o ardal y Parc, y Bala:

Oeddan nhw ‘n rhoi lot o bwyslais ar ddirwest, wchi, wedyn oeddach chi’n pledio bod chi ddim yn mynd i dwtsiad diod gadarn o gwbl, ac oeddan ni’n canu ryw ganeuon ‘Dwr, Dwr ..’ oeddan nhw wedi gwneud duw allan o ddirwest. A dw i’n credu bod hynny wedi gwneud lot o ddrwg
i grefydd … cystal â dweud nad och chi ddim yn Gristion os nad och chi’n ddirwestol … On i’n teimlo eu bod nhw wedi gwneud dirwest yn grefydd’.

Does dim rhyfedd fod cymaint o’n siaradwyr yn chwerthin yn hygoelus pan fydden ni’n gofyn a oedden nhw yn mynd i dafarn o gwbwl pan oedden nhw’n ifanc ! ‘Byth!’ yw’r ateb bron bob tro. ‘Fydde merched ddim yn meddwl mynd i dafarn bryd hynny’.

Ond yn sicr yr agwedd fwya dadleuol oll o’r ddisgyblaeth gapelyddol (achos doedd dim cyfundrefn debyg gan yr eglwys) oedd yr agwedd at ferched di-briod a gai eu hunain yn feichiog. Pechod oedd hynny a rhaid oedd cosbi. Mewn seiat, ar g’oedd – o flaen yr aelodau eraill cai ei thorri mâs / ei diarddel o gymdeithas y capel – ei gyrru yn llythrennol allan o’r adeilad a’r gymdeithas. A beth am y tad? – fe gai yntau ei gosbi a’i dorri allan -os oedd ei enw e’n hysbys wrth gwrs. Disgrifiodd Olwen Owen o Lannerch-y-medd yr effaith y gallai profiad o’r fath ei gael nid yn unig ar y ferch oedd wedi tramgwyddo ei hun ond ar ei theulu hefyd.

Weithiau’r gweinidog fyddai’r pennaf disgyblwr; dro arall blaenor neu ddiacon neu dad y ferch ei hunan. Soniodd Gwladwen Ann Jones o Abertawe sut y bu’n rhaid i’w thaid o weinidog dorri ei ferch ei hun allan o seiat yn Nhreletert, Penfro, am fynd i drwbwl o’r fath. A disgrifiodd siaradwraig arall sut y byddent hwy yn blant yn sbio i lawr dros y galeri i weld pa fechgyn neu ferched newydd briodi oedd yn absennol o’r cwrdd am gyfnod. Yn wir honnodd un siaradwraig fod gwybod am y gosb gyhoeddus hon yn well dull atal cenhedlu na’r un! Penderfynu aros i ffwrdd o’r cwrdd o wirfodd wnaeth un siaradwraig a diolch iddi am fod mor onest a didwyll wrth adrodd ei phrofiad.

Oeddech chi’n stopio mynd i capel yn un peth…Fuo ni’n cael bedyddio Lillian a cael ein derbyn yn ôl i’r capel `de mewn ryw dair wythnos ar ôl iddi gael ei geni – hogan bach oedd hi - nid fi oedd yr unig un w’chi, ond faswn i’m yn mynd i ddeud am neb arall. Doedd pawb ddim yn gneud fel `na chwaith – o’dd amryw yn dal i fynd i capal.

Doedden ni`m yn cael ein troi allan o’r capel. Fasa neb wedi deud wrtha`i am beidio mynd i capel, ond teimlo mai dyna ddylen ni neud oedden i, achos o’dd teulu John hefyd yn mynd i capel. Wedyn stopio. `Y newis i oedd gneud, nid bod neb wedi’n stopio fi. `Y newis i oedd gneud wedyn mynd yn ein holau yn aelod – on i’n dal yn aelod.

Pam benderfynoch chi neud hynny, te? Dyna odd y drefn, `swn i feddwl

Syndod er hynny oedd deall y cai menywod oedd wedi cael ysgariad eu trin yn yr un modd. Disgrifiodd Marlis Jones o Fethesda ( bellach o Lanbryn Mair) sut y gwelsai flaenor ei chapel yn cerdded heibio modryb iddi, a gawsai ysgariad, adeg gwasanaeth y Cymundeb, heb ei hydnabod a gwrthod y cwpan iddi. Ymateb y fodryb, a oedd wedi dioddef ymosodiadau corfforol difrifol gan ei gwr cyn ysgaru oedd codi a gadael y capel cyn y Cymun o hynny allan i arbed embaras. Does ryfedd na ddychwelodd sawl un o’r pechaduriaid honedig hyn fyth yn ôl i gymdeithas glos y capel. Ond cai’r mwyafrif llethol eu derbyn yn ôl mewn cwrdd paratoad ymhen ychydig, a chai’r digwyddiad anffodus ei roi o’r neilltu – os nad ei anghofio.

Condemnio’r arfer siofinaidd hwn a wnaeth bron pob un o’r siaradwyr a holwyd a hynny yn ddiflewyn-ar-dafod, gan echrydu rhag y fath ragrith Anghristionogol a’r ddisygyblaeth lem a barhaodd hyd at ganol pumdegau’r ugeinfed ganrif. Deilliai rhywfaint o’r agwedd siofinaidd hon mae’n siwr o’r ffaith nad oedd gan fenywod rôl ganolog yn ngwasanaethau na gweinyddiad y capeli yr oeddynt yn aelodau mor werthfawr ohonynt fel y tystia gwraig o Lanrwst.

Doedd merched ddim yn flaenllaw iawn amser hynny, nagoeddan. Nagoeddan. Ryw ddal yn ôl oedd y merched, am wn i, a gadael i’r dynion gymryd rhan. Ond mae `di mynd rwan os na wneith y merched, toes `na ddim byd yn cael `i neud achos toes `na’m dynion yma i `neud y gwaith.

Sut rol oedd gan y merched yn y capeli? Beth oedd eu rol nhw?

Paratoi ella. Pan fydda isho neud bwyd, oeddan nhw’n ca’l `u tynnu mewn. Os oedd isho gneud bwyd ar gyfer rwbath. Mi oedd `na ferchaid yn cymryd rhan amsar honno `fyd. Dwi’n cofio un ferch fydda yn cymryd rhan ac yn mynd ar ei glinia yn y sêt fawr a gweddïo o’r frest fel bydda nhw’n ddeud. Heb bapur na dim byd. Ond go ychydig oedd yna. [Siaradwraig o ardal Llanrwst]
 

Eithriad oedd i wraig fod yn ddiacon neu flaenor tan y gwelwyd prinder dynion yn y pump a’r
chwech degau.

Gweithient yn ddygn yn y cefndir yn paratoi bwyd a gweini teboteidiau diri o de ** (yn eu bratiau cotwm lliwgar); yn glanhau ‘Ty’r Arglwydd’** neu yn cynnal ffair, ‘bring and buy’ neu bazaar ** i glirio dyled a hyrwyddo’r achos.

Eithriadau prin oedd y menywod hynny a gymerai ran yn gyhoeddus, fel y dengys tystiolaeth Enid Jones, Caerfyrddin am yr argraff a wnaeth ymweliadau cenhades arni.

Odd c’nither ‘da Dad, Hettie Lewis, fuodd hi’n genhades am flynydde. A pan fydde Hettie Lewis yn dod gatre o’r Maes wedyn wrth gwrs odd hi … A wi fel ‘te’n i’n meddwl bo rhyw fenyw arall – ambell un tene, tene, odd e ddim yn gyffredin. Och chi ddim yn moyn menywod yn pulput ‘chmod. Sa i’n siwr bo fi’n moyn nhw heddi cofiwch. [ENID JONES, Cangen Caerfyrddin]

Ac ymateb greddfol y diweddar Mary Beynon Davies o Bwllheli (a changen Aberystwyth) i effaith Diwygiad 1904-05 ar ddull ei mam o weddïo.

Oedd hi’n grefyddol iawn a dim crefyddol, hynny yw, dwi’n gwybod fod Iesu Grist a phethe fel `na yn golygu beth wmbreth mwy i mam, te, achos dwi’n cofio sôn wrth fy mrawd rhyw dro fod e’n golygu llawer mwy iddi hi nag i ni, ynte… Ag wrth gwrs, roedd hi’n cymeryd rhan, fel o’n i’n `i alw fo, gweddïo’n gyhoeddus, a dylanwad y Diwygiad i glywed yn amlwg ar `i gweddïo hi, chi’n gweld, roedd hi’n gweddïo’n reit emosiynol, roedd hi’n cael ei chario i ffwrdd efo hwnna, ond o’n i, am nad oedd mam neb arall yn cymryd rhan yn ein capel ni – roedd `na ddynes arall ond hen ferch oedd honno – ac roedd gas gen i fod mam yn gweddïo. [Y diweddar MARY BEYNON DAVIES, Aberystwyth, g. Pwllheli]

Rhaid cofio wrth gwrs nad oedd pob un a holwyd yn grefyddol ac ambell un yn anffyddwraig gadarn. Ond eithriadau prin oedden nhw a’r teimlad cyffredinol oedd fod rhywbeth mawr wedi, neu yn, mynd i fynd i golli o ddiflaniad y capeli a’u gwerthoedd unigryw. Mae’n ffasiynol ymysg rhai o haneswyr Cymru heddiw – nifer ohonynt yn fenywod disglair yn eu meysydd, yn sosialwyr ac ynghlwm â thraddodiad y de –diwydiannol i anwybyddu, i ddilorni neu i feirniadu dylanwad pell-gyrhaeddol y capel ac anghydffurfiaeth yn hanes Cymru ac yn arbennig wrth drafod hanes menywod. Honnir mai dylanwad negyddol, a oedd yn llesteirio datblygiad, cyfyngu dewisiadau a gormesu menywod ydoedd.

Ond, ac ar sail yr ymchwil ar gyfer y prosiect hwn mae’n gwbwl amlwg nad felly yr oedd pethau mewn gwirionedd. Er condemnio’r arfer o ddiarddel merched diniwed, soniodd yr un wraig am gael ei gormesu na’i chaethiwo gan ddylanwad y capel a’i gymdeithas.

Iddynt hwy, yn ddios, dyma OES AUR Y CAPELI a phrofiad bythgofiadwy oedd cael byw yn ei bwrlwm a’i hafiaith.

‘Y capal oedd canolbwynt y gymdeithas … a dyna pam fod y capeli wedi mynd mor wag, achos does `na ddim angen nhw ‘rwan, nag oes?, yn yr ystyr gymdeithasol …’ [Brenda Wyn Jones, Tregarth]

(Y ffaith) ‘ … bod ganddoch chi rywun `da chi’n medru bwyso arno fo. Ma’ rhaid i chi feddwl bod `na rywun gwell na chi eich hun, neu `da chi’n unig iawn, dydach?’ [Agnes Edwards, Blaenau Ffestiniog]

  
© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.