Yr Ail Ryfel Byd
  

        
      
      
    
    
    
    
         
 

Roedd gan bob un o’r menywod a holwyd ddigon i’w ddweud am eu profiadau addysgol. Er bod dyddiau’r ysgol gynradd ar y cyfan yn dwyn atgofion hapus i’r helyw, yr oedd islais o feirniadaeth fod yr addysg a gawsent wedi bod mor Seisn-ig ei naws a’i gynnwys, bod y cosbi yn gallu bod yn llym a bod disgwyliadau ac uchelgeisiau merched o reidrwydd bron yn isel.

Roedd diwrnod y scholarship, ac wedi Deddf Addysg 1944 yr 11+, yn ddiwrnod tyngedfennol yn eu hanes bron yn ddieithriad. Tystiodd sawl un, â hiraeth yn eu lleisiau, na chawsant na chynnig na chyfle i sefyll yr arholiad bwysig hon ac felly fod eu dewis o yrfa, gartre ar y fferm, yn gweini /gwasanaethu neu yn gweithio mewn siop, yn hynod o gyfyng. Oherwydd diffygion yn y system addysg droeon methodd sawl siaradwraig arall yr arholiad a’i thynghedu i aros ymlaen yn yr ysgol gynradd tan yn 14 oed neu fynychu ysgol ganolraddol. Yno cai ei thrwytho mewn pynciau ‘benywaidd’ fel coginio, golchi a gwyddor ty a’i pharatoi i fod yn wraig a mam yn hytrach na dinesydd cyflawn. Wedi 1944 i’r Ysgolion Eilradd Modern yr ai’r garfan hon a theimlo’r stigma o’r gwahaniaethu rhyngddynt a’u cyfoedion.

O basio’r scholarship neu’r 11+ agorai drysau’r Ysgolion Sir neu’r Ysgolion Gramadeg ar eu cyfer (os oedd y teulu’n gallu fforddio’r llyfrau, y dillad a’r teithio wrth gwrs) a chlywir balchder yn y lleisiau wrth iddynt ddisgrifio manylder y wisg ysgol, chwerthin am ben y rheolau caeth ac ymfalchïo yn y cwricwlwm academaidd. Unwaith eto, er hynny, gresynnant at pa mor Seisnig oedd popeth ac nad oedd anogaeth i ferched astudio pynciau gwyddonol. Adlewyrchir yn y sgyrsiau hefyd ddechreuadau ysgolion cyfun a thwf graddol addysg cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod hwn.

Ac wedi pasio’r Senior neu Lefel ‘A’ yn 16 oed, beth wedyn? Gadael wnai llawer i ddysgu llaw-fer a theipio mewn coleg technegol neu breifat i’w paratoi ar gyfer gweithio mewn swyddfa. Ond y ddwy yrfa fwya deniadol, derbyniol a pharchus i ferch gydol y cyfnod dan sylw oedd hyfforddi yn nyrs neu’n athrawes gynradd. Cafwyd llu o hanesion am y ddisgyblaeth lem ( a’r hwyl wrth ei herio) a’r gymdeithas ddifyr a gaent mewn coleg hyfforddi a choleg nyrsio. Yr oedd carfan fechan ond gynyddol o’r rhai a holwyd wedi mynychu prifysgol neu goleg meddygol a gwerthfawrogent iddynt gael braint arbennig o’u cymharu â chynifer o’u cyfoedion o ferched.
Yn y pendraw, er hynny, yn y cyfnod dan sylw, gwir uchelgais waelodol y mwyafrif oedd cael gweithio yn eu dewis yrfa am rai blynyddoedd cyn setlo i lawr i briodi a magu teulu.

Yn yr adran hon cawn rai sylwadau cyffredinol yn gynta ac yna gyfle i droedio trwy is-themau byd addysg i flasu ehangder ac amrywiaeth y profiadau a ddaeth i ran ein siaradwyr. GWRANDEWCH ar eu LLEISIAU ac EDRYCHWCH ar eu LLUNIAU mewn ysgol a choleg a phrifysgol.

Cyffredinol :

“ Odd disgwyliade mawr gatre. Odd Mam yn gredwr mawr, chi’n gwbod, mai’r unig ffordd i ddianc rhag tlodi yw addysg ac odd ‘i wastod yn pregethu hyn wrthon ni, ‘Allwch chi golli’ch arian dros nos ond chollwch chi byth mo’ch addysg’. Ac felly odd hi, am bod hi wedi gorffod gadel yr ysgol mor ifanc, odd hi’n neud yn siwr bo ni’n cal addysg. Wedyn odd disgwyliade mawr … Odd tri ohonon ni odd yn ymladd am y man top yn y class. Os och chi’n dod yn ail fydde hi’n mynd yn grac. ‘Be ‘nest ti i fynd yn ail? Pam ot ti ddim yn gynta?’, … odd.”
Jen Davies, Llwynpiod, Ceredigion [Tâp 9782] yn sôn am ei magwraeth yn ardal Llanberis tua 1945.



“Odd ddim uchelgais i gal i ferched yr adeg honno – yn enwedig rhywun odd yn byw yn y wlad, heb gyfleusterau teithio nag arall.”
Siaradwraig o gangen Tryweryn, Meirionnydd am y dauddegau. [Tâp 8841]




“… do’n i’m yn licio’r ysgol. Dwi’n difaru heddiw ’de na faswn i ’di gweithio yn galetach...Mae’n lot o help, dydi? addysg, dydi? … Oeddach chi â’ch bryd ar gyrraedd pedair ar ddeg, a ‘na fo – mynd.”
Mai Morris, Penrhyndeudraeth, Meirionnydd; [Tâp 9335] am y tridegau.



Symudodd Eirlys Peris Davies, Trefdraeth [Tâp 9516] yn bymtheg oed yn 1944 o Lanberis i fyw i Gastell Newydd Emlyn a sylwodd ar un gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy gymdeithas :

“Y gwahanieth mowr iawn welon ni odd pwysigrwydd chwarelwyr Llanberis i roi addysg i’w plant. Odd pob chwarelwr eisie rhoi addysg i’w blant fel na bo fe’n gorffod mynd i’r chwarel. … Dod lawr wedyn i Gastell Newydd hollol wahanol agwedd – y ffermwyr eisie i’w plant adel i ddod i helpu ar y ffarm … ffermwyr yn rhoi dim pwys ar addysg i’w plant.”



CHWILIWCH am yr is-themau canlynol :

1. Yr ysgol gynradd
2. Y ‘scholarship’
3. Aros ymlaen yn yr ysgol gynradd tan yn 14 mlwydd oed.
4. Yr Ysgol Ramadeg
5. Ysgolion eraill
6. Mynd i’r Coleg : Colegau Hyfforddi
7. Mynd i’r Brifysgol
8. Addysg cyfrwng Cymraeg
9. Hyfforddi yn Nyrs

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.