Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy
 

 

DARLUN o YSGOL RAMADEG y MERCHED, Penybont-ar-Ogwr, ddiwedd y pedwardegau
{trwy garedigrwydd Mair Williams, Marian-glas}
DARLUN o DIM HOCI, YSGOL RAMADEG PORTHMADOG, 1951
{trwy garedigrwydd Glenys Morris, Llanbedr pont Steffan}



Dechrau’r ysgol fawr :

Dim ond rhyw ddwsin o blant oedd yn ysgol gynradd y Gors ger Aberystwyth pan fynychai siaradwraig o Lanfarian [Tâp 9443] hi ddechrau’r pumdegau ac felly cafodd sioc ofnadwy wrth symud i Ysgol Ramadeg Ardwyn :

“odd hi’n ddwrnod ofnadw mynd i Ardwyn tro cynta a gweld yr holl blant ‘na a wedi bod mor ‘chydig. O oedd! Wi’n siwr ‘se rhywun yn tynnu’n llun i y dwrnod ‘ny bo nheg i ar agor…. A’r holl bwncie ot ti’n gal yn wahanol.”


 
I Ysgol Ramadeg y Merched yn Rhuthun yr aeth Sarah E. Jones, Rhiwlas, Glyn Maelor [Tâp 9602] yn 1923:

“Ysgol Seisnig, ac oedd ‘na boarders yno, term boarders, weekly boarders a daily boarders ond day-girl oen i’n ‘de? Mynd â bwyd i’n canlyn oeddan ni. Roedd gynnon ni rwm i fwyta’n cinio ac mi roedd dwy o’r merched hyna yn mynd yno i roi tegell ar y tân yn brêc ac i roi llieinie ar y bwrdd ac estyn llestri allan. … Dim ond merched oedd hi’n ‘te. Roedd ysgol y bechgyn ar draws y ffordd – y Grammar School ‘nte? – ac oedd ‘u cae chwarae nhw am y gwrych â ni … wedyn oeddan nhw’n ofalus iawn nad oedd amser chwarae yn cyd-redeg.
… Miss Parry oedd yn dysgu Cymraeg, ond ychydig iawn oedd yn cymryd Cymraeg, a’r rhai oedd yno – oedd o’n druenus, druenus … Dwi’n cofio Miss Hammond oedd yr athrawes Saesneg … dwi’n ei chofio hi rwan yn darllen Hiawatha i ni – Wel, roedd o’n fendigedig ‘de.”


 
Cafwyd disgrifiad manwl gan Gwenllian Jones, Treboeth, Abertawe [Tâp 8885] o wisg Ysgol Ramadeg y Merched, Delabeche yn Abertawe yn y tridegau hwyr ynghyd â darlun hoffus o ddylanwad y brifathrawes, Miss Naylor ar ei bywyd hi. Dywed mai caeth iawn oedd y wisg – “blowsys gwyn, twll gwddwg sgwar, pinafore dress … four inches from the ground when kneeling, cardigan glas tywyll a blazer i wisgo mas a tam. Odd rhai yn cal nhw wedi‘u teilwra ond prynu nhw odd y rhan fwya. Odd dwy siop, Sidney Heath a Archie Jones. Sane gwlan du a sgidie fel pumps i wisgo’n yr ysgol. Och chi’n newid ych sgidie am sgidie i wisgo mas. Och chi ddim hyd yn oed yn gallu gwisgo clip yn eich gwallt - dim ond llinyn - ‘Take that prong out of you hair’. Cefnogodd Miss Naylor, Gwen i wneud Cymraeg a Ffrangeg yn yr ysgol – roedd wedi rhagweld y byddai angen athrawon Cymraeg at y dyfodol.
Pan ddaeth yn amser penderfynu ar ei gyrfa :
“Odd mam wedi mynd lawr iddi gweld hi ( Miss Naylor) ac … odd hi’n gwbod fod pethe lled fain. ‘What do you think she will do?’ medd hi wrth Mam. ‘Oh! I expect she will go into an office’ medde Mam chi’n gweld. ‘Oh no she won’t’ medde hi, ‘she’s a University girl’. Mam yn gweud ‘Oh I could never afford that’ medde hi. ‘Oh yes there will be grants’ medde hi. ‘Well if she can do it, I’ll do my best to help her do it.’ A ‘na’i gyd fu.”



 
Disgrifia Valmai Owen, Aberystwyth [Tâp 9435] rai o’r athrawon a fu’n ddylanwad ar ei haddysg yn Ysgol Tregaron tua’r tridegau hwyr :

“S.N.Powell achos mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanes lleol , … a D. Lloyd Jenkins … odd neud Shakespeare gyda D. Lloyd Jenkins fel mynd i weld drama Shakespeare ar lwyfan. Odd e o flân y dosbarth yn acto pob cymeriad.”


 
Hoffai Margaret A. Griffiths, Pen-y-groes, sir Gaerfyrddin [Tâp 9064] bob un o’r pynciau newydd yn Ysgol Ramadeg Rhydaman yn y dauddegau cynnar :

“Gethon ni gymryd Chemistry am un flwyddyn ond odd dim llawer o gymell i ferched i neud sciences bryd hynny. On nhw ddim yn cal cyfle, gorfod ni ddropo fe wedyn am winio. … Och chi’n gorffod dewis ch’ wel, Ffrangeg neu Cymrâg. ‘Wel’ on i’n meddwl ‘Wi’n gwbod Cymrâg’. … Bydden i wedi hoffi mynd i’r Brifysgol ond chi’n gweld bu farw nhad pan on ni yn gwneud … yr Higher. … A wedyn on i ddim yn gweld llawer o obeth … odd dim cymorth i widwod … na phlant … bydde dwy flynedd yn hen ddigon.”



Roedd Ysgol Sir Tregaron saith milltir o gartre Avarina M Edwards, Llanilar, Ceredigion [Tâp 4256] ac felly, yn y dauddegau hwyr :

“a wedyn odd rhaid neud beth odd rhan fwya o blant yn neud bryd hynny – lodgo – yn Dregaron am dros yr wythnos a mynd bore dydd Llun a dod adre ar nos Wener. Rhan amla cerdded fydden ni’n neud i Dregaron ar ddydd Llun a cerdded adre wedyn nos Wener. Digon lwcus ambell waith i gael cynnig lifft. … Odd lot o bobol yn Tregaron yn hanner byw wi’n credu ar gadw … plant ysgol. On ni’n talu 4swllt am wthnos (cael) gwely, on ni’n dod â’n bwyd ‘n hunen.”


 
I Ysgol Tregaron yr aeth Eleanor M.Lewis, Llanafan, Ceredigion [Tâp 9450] hithau yn y tridegau cynnar ac meddai wrth sgwrsio efo Ceridwen Lloyd Morgan :

“ Odd ysgol dda yn Nhregaron a yn ysgol Gymrâg; well ei hiaith na fydde Ardwyn … ysgol Ramadeg yn Aberystwyth. Achos pan fydden ni, on i’n digwydd bod yn y tim hoci, fydde neb yn tim Ardwyn yn siarad Cymrâg â ni. Fe fydde Llandysul a’r ysgolion erill. Odd dim un athro yn siarad Cymrâg â chi … yn y gwersi ond yn y wers Gymrâg ond on nhw i gyd yn Gymry. …
Oeddech chi’n gweld hynny’n lletchwith ar y pryd?
Dim o gwbwl. Nag oen. Ond oen ni ddim yn siarad Saesneg ‘da’n gilydd. … Arhoses i ‘na i neud Lefel A a wedyn … mi ddoth y rhyfel. A odd Mam ddim yn dda a odd Nhad wedi’i gladdu - odd arian yn brin. On i am fynd i Goleg Aberystwyth i neud Lladin a gweud y gwir. Odd y prifathro yn begian arna i wedyn i fynd i Goleg Abertawe i fynd yn athrawes … ac odd yr athro Cemeg am i fi fynd i Aberystwyth i neud Cemeg a es i ddim i un i neud dim ohonyn nhw.”


 
Gwrthododd Mary Ellis, cangen Aberystwyth [Tâp 9432] ddilyn ei dwy chwaer i ysgol breswyl ym Mangor yn y dauddegau ond dewisodd yn hytrach fynychu Ysgol John Bright, Llandudno.

“ Oedd ysgol John Bright Llandudno yn llawn o Saeson … o Loegar, oedd eu rhieni nhw yn cadw siopa yn Llandudno. … Oen i’n clywed Saesneg o nghwmpas ac am y tro cynta erioed yn gorfod siarad Saesneg trwy’r dydd ac oedd o’n brofiad anodd iawn i mi. Mi roedd yna rai athrawesau gwrth-Gymreig yno, oeddach chi’n medru gweld, oeddan nhw’n sgornllyd iawn o ffordd oeddach chi’n siarad.”



Bu’n rhaid i Sylvia Rees, Lon-las, Abertawe [Tâp 8996] ddewis rhwng Cemeg a Chymraeg yn Ysgol Llwyn-y-bryn, tua 1946. Roedd ei thad yn mynnu iddi wneud Cymraeg.

“Odd yn enw i wedi dod mas ar Cemeg. … ‘Pwff ‘ wedodd Dad, ‘Os os Cymraeg ych chi’n mynd i’r dosbarth Cymraeg … Os os Cymraeg ar yr amserlen ych chi’n mynd i’r Cymraeg’. … Ma fi’n ishte miwn ‘da’r rhai odd yn cymryd Cymraeg. .. On i ar goll … yn Cemeg, .. ges i’n hwpo nôl yn y Cemeg. … Etho i gatre a wedes i wrth Dad ‘Sdim ots .. chi’n mynd i Cymraeg fory eto’. … Ac fel’ny buodd hi am sawl diwrnod nes bod y brifathrawes yn grac iawn. (Nawr trefnodd ei thad gyfweliad â’r brifathrawes) a pan aethon ni miwn ma’ hi’n codi lan a dweud y drefn - bo fi wedi cal ‘n newis fel un intelligent oedd yn cal mynd i gymryd Cemeg … Fe arhosodd Dad … a pan odd hi wedi gorffen, … medde fe ’Sit down Miss Cameron, you’ve had your say, now I’ll say. We are Welsh and if there’s Welsh on the timetable … my child goes to Welsh’.” … Ac yn y diwedd odd rhaid iddi roi miwn – fe gymres i Gymraeg.“


 
Atgofion cymysglyd iawn am ryddid a phenrhyddid sy gan Erinwen Johnson, Abergele [Tâp 9722] am ei haddysg yn Ysgol Sir Llanrwst yn y pedwardegau :

“ Dwi’n cofio eistedd yn yr English lessons … ag odd ‘y mhenaglinia bach i yn crynu rhag ofn iddo fo ofyn i mi ddarllan yn Sisnag, achos fedrwn i ddim. .. ac oedd gynna i ofn. … Odd bob peth yn Saesneg. Ag wedyn oeddan ni’n gorfod lodgo yn Llanrwst - dim ond ryw wyth milltir oedd o … a fydda Mam druan yn rhoid y pres yma i ni brynu bwyd a pres i dalu am ein lle – O! oeddan ni’n ddrwg. Oeddan ni’n cal dim supervision o gwbwl – dwi ddim yn meddwl mod i ‘di rhoid ‘n llyfr Saesneg i mewn i farcio erioed, erioed! … Oeddan i’n smocio beth on i’n alw yn Cravana, Woodbines, pan oen i’n ddeuddeg oed. … Oedd o fatha child abuse bron ychi. Oeddan ni’n enjoyo’n hunen cofiwch. … (Yn wir rhedodd ei chwaer Marian i ffwrdd o’r ysgol a hithau Erinwen heb ddweud wrth unrhywun – fe’i cafwyd mewn tair wythnos ym Metws-y-coed). Doedd neb yn poeni amdanon ni.”
Roedd ei Mam yn awyddus iawn i roi addysg iddi hi a’i chwaer :
“Dwi’n cofio ryw dro, … Mam a’i ffrindie , .. oeddan nhw’n sôn am ddillad … a dyma hi’n deud wrthi, ‘Mary’, ( dyna beth oedd enw Mam), ‘Mary, pam na brynwch chi got newydd yn lle rhoid addysg i’r merched yma? Mae’n iawn i chi roi addysg i Wili, mae o’n hogyn, ond y merched yma; wn i’m be ‘dach chi’n trafferthu, gneud ych hun yn dlawd rhoid addysg iddyn nhw’. ‘Wel ie’, medde Mam ‘Ond mi fydd o werth iddyn nhw ryw dro’. ‘Na fydd wir, wnan nhw ddim byd ‘blaw priodi a chal babis, dydy o dda i ddim byd iddyn nhw’. A dyma Mam yn deud, ‘Wch chi be, mi wnan nhw well rhieni’. “


 
I Ysgol Ramadeg y Merched, Caerfyrddin yr aeth Meinir McDonald, cangen Aberystwyth [Tâp 9438], a daeth yn bryd iddi (tua 1953) ddewis ei phynciau Lefel A :

“ Mathemateg odd ‘n hoff bwnc i. Ond chmbod, y peth sy’n rhyfedd, bysen i wedi hoffi neud Mathemateg i Lefel A ond wedodd Mam yn bendant ‘Na’. A dyma’i rheswm hi – ‘Ti byth yn gwbod, ti’n gweld, falle byddi di â’r mislif pan fydd yr arholiad a falle wnei di ddim yn dda iawn ti’n gwbod. Falle fyddi di ddim yn teimlo’n dda y diwrnod ‘na.’ … a wedyn ‘ny wrth gwrs, Cymrag, Saesneg a Lladin wnes i yn y pendraw.”


 
A beth am wersi rhyw? Oedden nhw’n cael eu dysgu am ffeithiau bywyd yn yr ysgol?

“...Ew annwl nag oeddan. Synhwyro, pigo peth yma i fyny, o ia, a pigo peth arall i fyny a rhoi two and two together...Odd gwersi bioleg – reproduction of the rabbit – odd hwnnw yn cal ’i gyfri dipyn bach yn blue.”
Gwyneth Williams, Morfa Nefyn, Dwyfor [Tâp 8987] am Ysgol Ramadeg Pwllheli yn y pedwardegau a dechrau’r pumdegau.



GWRANDEWCH ar ddisgrifiad Carys Whelan, Penybont-ar-Ogwr, [Tâp 9172] mewn sgwrs gyda Marian Lake o’i dyddiau ysgol yn Ysgol Ramadeg y Merched, y Porth, y Rhondda yn y pumdegau :

“Buon ni’n lwcus ofnadw achos hanner ffordd drwy ngyrfa ysgol ramadeg i mi ddath Mair Kitchener Davies ar y staff ag yr unig beth odd merched odd yn siarad Cymrâg yn neud tan hynny odd ‘Easy Welsh’ sef O2 … ond mi ddâth Mair ac fe fynnodd hi bo ni’n neud Iaith a Llenyddiaeth y Gymrâg. A buon ni’n aros ar ôl ysgol unwaith yr wthnos drwy gydol y flwyddyn i astudio Parry Willams a Williams Parry a Kate Roberts – odd e’n gyfoeth mawr i ni.
Och chi’n gweud taw ysgol i ferched odd hi. Faint o gyswllt odd rhyngddoch chi ag ysgol y bechgyn?
O, jiw, jiw, dim o gwbwl. Odd y bysys yn rhedeg ar wahân a odd ffens ddur rhwng y ddou ga, rhwng y ddwy ysgol. …Mi welwyd dwy ferch yn siarad ‘da dou fachgen un tro a yn y gwasaneth bore trannoth dyma y brifathrawes, Miss Hudd, yn dweud, ‘Girls, there’ll be nappies hanging on that fence if you’re not careful.’ ”


“y flwyddyn gynta och chi’n subprefect a cyfrifoldeb plant newydd ,chmbod dosbarth, a wedyn full prefect, … yn y Neuadd Fawr odd galeri ac odd ystafell tu ôl i’r galeri, y lower sixth room oedd e, a ‘na le nes i ysmygu gynta. Ffenest ar agor rhag ofon bod yr athrawes yn dod …. Odd bron pawb yn – falle fydde un odd person ddim yn.”
H. Rowena Millward, Porthcawl [Tâp 9252] tua 1956 am Ysgol Ramadeg y Merched, Llanelli.


  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.