“Adeg y rhyfel, och chi ddim yn gallu mynd mâs lot achos odd y cwbwl yn blackout yfe. Ond odd gyda ni Cwmni Drama a odd gyda ni core a pethach, chi’n gwbod. On ni’n cwrdd i gyd, trw’r cwbwl.”
[ Tâp 8853 Lilian Myfanwy Bowen, Dre-fach, Llanelli.]

ac EDRYCHWCH AR Y DARLUN O GWMNI DRAMA YN DRE-FACH, 1940-41 yn ennill Cwpan Drama Cross Hands



Daliodd Aelwyd yr Urdd, Penybont, Talog i gyfarfod adeg y rhyfel hefyd, dan arweiniad y prifathro lleol Edwin Williams. EDRYCHWCH AR Y DARLUN O AELODAU AELWYD YR URDD.




“Adeg y rhyfel wrth gwrs oedd y Groes Goch a’r Cymorth Cyntaf, ac roedd `na cymaint yn mynd i’r dosbarthiadau, oedd Dr. Berrisford yn gorfod cael help y tri meddyg oedd yn Waun…Fydden ni’n câl arholiad o hyd ac o hyd, ynte. A wedyn Mrs. Storey, Plas Nantyr, a Mrs. Berrisford - gwraig cyntaf Dr. Berrisford – nhw oedd yn gofalu am y Groes Goch. Ag oedd `na weithgaredd mawr bryd hynny, wrth gwrs, yn naturiol, amser rhyfel.” [Tâp 9613 Einwen Mary Jones, Dyffryn Ceiriog, Glyn Maelor]



Roedd y sinema yn ddihangfa berffaith yn ystod y dyddiau a’r nosweithiau tywyll hyn fel y dywed Marion Davies, Gorseinon, gynt o’r Tymbl, [Tâp 8881] wrth ei merch, Cathy Irons. GWRANDEWCH AR EI DISGRIFIAD.

“ Os och chi’n mynd i’r sinema yn amal iawn odd hwnna ddim yn dderbyniol gyda bobol y capel ‘chwaith. Och chi’n gallu mynd unwaith neu ddwywaith falle ond dim ragor. Ond odd sinema gyda ni, yn Crosshands odd yr agosa i’r Tymbl, odd dim sinema yn Tymbl, ne lawr yn Pontyberem. A wedi ‘ny odd dawnsys yn Tymbl ar nos Sadwrn a lawr yn Pontyberem.

Pa fath o ffilmie och chi’n hoffi ‘u gweld?

O! chi wedi gweld nhw, wi’n siwr bo chi wedi gweld nhw – ffilmie gore buodd eriôd – y pedwar a’r pumdege a wrth gwrs odd popeth mor ddi-liw a mor ddiflas a mor beryglus yn ystod y rhyfel. A wedyn och chi’n mynd, wedwn ni, i’r Odeon yn Llanelli a’r lle mor foethus, a’r melfed a’r goleuade a’r cwbwl a gweld y cyfan hyn yn dod. A’r tai anferth hyn o Hollywood a’r celfi a’r dillad a’r byw a odd hi o hyd â haul ‘na. On nhw’n mynd am bicnic a ddim ishe besco p’un a oedd yr haul yn mynd i ddod (mâs), odd y cwbwl yn câl ‘i drefnu a odd y cwbwl yn câl ‘i gario mâs i’r dim.

Beth odd ‘ch hoff ffilm chi?
‘Gone with the wind’.”



A phwysigrwydd y radio a’r newyddion yn dod â nhw nôl i realiti :
“Adeg y rhyfel, roeddan ni’n gwrando allan am y Newyddion – pwysig iawn. Ac oeddwn i’n clywed weithie, Lord Haw-Haw : ‘Germany Calling, Germany Calling!’.
Och chi’n hoffi’i glywed e?
Ddim yn hoffi, ond oedd e’n rhywbeth…
Oedd e’n codi ofn arnoch chi?
Wel oedd…oeddwn i rhyw bymtheg oed, … Dwi’m yn meddwl roeddwn i mor ofnus a faswn i rwan, achos on i mewn rhyw oed ifanc.”
[Tâp 9110 Elspeth Leech, Cangen Llandrillo, Meirionnydd yn cael ei holi gan Elsbeth Jones]



“Oeddan ni’n mynd lot pan oeddan ni’n byw yn Borth radag rhyfel, mynd lot i ddawnsio. Bron bob nos, wchi. Oeddan ni’n mynd i Baronhill pan oedd y sowldiwrs yno. I Biwmaris oeddan ni’n mynd fwya’ – i Smokey Joe oeddan nhw’n alw fo. Mynd yno efo bws, a tacsi adra, tua chwech ohonan ni. Grêt...Doeddan ni’m isho cariad radag hynny, na, odd well gynnon ni gael dawnsio efo gwahanol rai, a mynd adra wedyn a dyna fo, ’te. A mynd wedyn noson wedyn a gweld rywun arall wedyn, ’te.”
[Tâp 8822 Megan Phillips, Bethesda, Arfon]

Bu Megan yn gweithio yn y Swyddfa Bost adeg y rhyfel a chofia fynd i ffwrdd i’w hyfforddi ym mis Mawrth 1945 yn y Post Office Counters’ Training Centre yn yr Amwythig. EDRYCHWCH ar y DARLUN ohoni ( y drydedd o’r chwith yn y cefn) yng nghwmni merched eraill o ledled Cymru a Lloegr.





Mae hanes Margaret Jones, Rhydaman [Tâp 8950] yn crisialu’r newid agweddau fu oherwydd tensiynau a chyfleodd newydd y rhyfel wrth sgwrsio gyda Ruth Morgan:

“Yn y ddawns (Drill Hall, Rhydaman) cwrddes i â ngwr. Odd e yn y fyddin erbyn hyn…a un nos Sadwrn yn y ddawns dyma fe’n troi lan yn ei iwnifform, a dyma fe’n gofyn i fi ddawnsio, dyma fe’n gofyn os alle fe hebrwng fi gartre.

Beth am fynd i dafarnau neu smoco?
On, on i’n smoco, odd ddim o’r braw ‘ma wedi dod o gwbwl, wel ‘na fe, odd e the done thing…‘

Pryd ddechreuoch chi i smoco?
Jyst cyn y rhyfel, fel na bydden i’n gweud, bwyti 18, 17 neu 18, ac yn dost ofnadw ar ôl yn sigaret gynta, ond wnaeth e ddim yn rhwystro i i gario mlaen…nag odd e’n cael ei gyfrif mor ofnadw pryd ‘ny. On i ddim yn smoco’n drwm achos on i ffili fforddio fe…fel on ni’n mynd yn hyn, reit, on ni’n cwrdd â bechgyn a merched eraill, mynd i ddawnsfeydd a bar yn y dawnsfeydd, a reit, on i’n cael drink fach neu ddwy, trïo’n gorau i beidio neud ffyliaid o’n hunen…Odd tipyn o filwyr; och chi’n gweld lot o nhw ar hyd y strydoedd, a odd lot o filwyr yn billeted yn Rhydaman a’r cylch, ac on nhw’n dod i’r dawnsfeydd, o on, noswaith fawr pryd ‘ny wedyn ‘ny.

O ble on nhw’n dod?
Lloegr, odd rhai o Llunden gyda ni, gafodd lot eu gwyr ‘ma, briododd lot y bechgyn ‘na, a geson ni Yanks hefyd, do, geson ni Yanks hefyd, … o odd rheiny yn ha(e)l, chi’n gwbod, odd gyda nhw losin a gum wrth gwrs, on’d yfe. Ond bues i ddim yn neud lot â’r Yanks, dim ond ambell i ddawns, ‘Hop’ nos Sadwrn, fel on i’n gweud.”

ac EDRYCHWCH AR Y DARLUN O BRIODAS MARGARET JONES YN 1945.


  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.