A. DYWEDDÏO :

Mae’r dystiolaeth am ddyweddïo yn amrywio yn fawr o siaradwraig i siaradwraig. Felly hefyd hyd y garwriaeth – y cyfan yn dibynnu ar amgylchiadau personol ac economaidd. Ond ymddengys rhai patrymau e.e. nad oedd hi’n arferol i gyflwyno’ch cariad i’ch teulu a dod ag ef adre nes ei fod yn ddarpar-wr bron iawn, ac mai ychydig o gariadon gwahanol yr oedd y mwyafrif o’r menywod a holwyd wedi bod yn eu canlyn.

1. Joyce Phillips, Ffynnon-groes (9226) : Bu’n caru gyda’i darpar-wr am 5-6 mlynedd ond wnaethon nhw ddim dyweddïo o gwbl cyn priodi yn 1951.

2. Siaradwraig o Abergwaun (9508) : Doedd ei rhieni ddim wedi cwrdd â’i darpar wr nes iddynt benderfynu priodi (1937). Fyddai merched ddim yn mynd â’u cariadon i’w cartrefi cyn hynny. Eto roedd ei rhieni yn hapus iawn â’i dewis gan ei fod yn ‘fachgen teidi’. Wnaethon nhw ddim dyweddïo.

3. Elfeira Harris, Cas-blaidd (9220) : Dim ond ar ôl blwyddyn neu ddwy o garu y daeth ei rhieni i wybod am ei chariad. Daeth i’w chartref am y tro cyntaf i gael swper adeg y Nadolig. Dyweddïon nhw am ddeunaw mis cyn priodi ddiwedd y pumdegau.

4. Kitty Williams, Aberteifi (9240) : Doedd ei rieni e ddim yn awyddus iddynt ddyweddïo tua 1940 am y credent eu bod yn rhy ifanc (20 oed oedd Kitty ac yntau yn 21oed) ac na wyddent ei hanes. Yna siaradodd ei rieni e â phlismon y dre a sicrhaodd e nhw fod Kitty o deulu da.

5. Ruby Salmon, Tyddewi ( 9212) : Dyweddïwyd flwyddyn cyn priodi yn 1956 a ‘oedd rhaid cael modrwy’. Roedd ‘cael gwr’ yn bwysig iawn. Uchelgais pawb oedd cael teulu a phlant.

6. Alice Morris, Rhuallt (9174) : ‘Dim ond byddigions oedd yn engajo’ ond bu’n rhaid i’w darpar wr ddod i ofyn am ei llaw yn ffurfiol cyn iddynt briodi yn 1945.

7. Rachel Thomas, Y Groeslon (9194) : Bu hi a’i darpar-wr yn canlyn am saith mlynedd cyn priodi yn 1941. ‘Doedd ganddon ni ddim pres i briodi. Doedd dim isho priodi os nag oeddach chi’n medru talu am eich petha’.

8. Anna Lea Jones, Croesoswallt (9763) : Bu hi a’i darpar-wr yn caru am naw mlynedd cyn priodi yn 1934. Dim ond pobl fawr oedd yn dyweddïo.

9. Sally Evans, Pontarddulais (9144) : Wedi cwrdd â Trevor ei chariad ar y mynci parêd yn Felindre buon nhw’n caru am saith mlynedd – pum mlynedd cyn iddo gael dod i’w chartre ar ôl iddyn nhw engajo. Dyna’r unig sboner fu ganddi erioed.


B. PWYSAU I BRIODI :

Tystiai sawl siaradwraig iddynt deimlo fod pwysau arnynt i briodi, weithiau er mwyn clymu fferm wrth fferm, dro arall er mwyn lleihau’r baich o gadw un aelod arall o’r teulu gartre a thro arall am mai cael hyd i wr a setlo lawr fel gwraig a mam a ddisgwylid ohonynt gan gymdeithas. Eto gwelwn hefyd wrth dystiolaeth Enid Jones fod agweddau yn newid.

1. Siaradwraig o ardal y Bala (8838) :
‘Oedd ‘na bwyse, oedd. Dwi’n teimlo bod `n Nhad wedi rhoi lot o bwyse arna i i briodi. ... On nhw wedi byw mewn cyfnode o ansicrwydd ariannol a gweld cyfle i briodi i ffarm weddol fawr ... odd rhieni yn rhoi pwyse arnach chi i wneud. ... Wel, ma’n debyg bod rhywun yn meddwl bo chi i fod i wrando ar eich rhieni yr adeg honno. ... Ddyle bo fi ddim yn deud hyn, ond dodd dim “romance” mawr, w’chi’ yn `de. Ond `de ni wedi bod yn hapus iawn, ac wedi magu wyth o blant, ac wedi cael llawer iawn o hyfrydwch efo’n teulu’.

2. Margaret Jane Lloyd, Carno (9617) : Treuliodd ei hugeiniau cynnar yn teithio a gweithio fel nyrs yn Chicago, gogledd America a Melbourne, Awstralia ond wedi dychwelyd i Gymru yn 1966 cwrddodd â Malcolm Lloyd ac roedd dynes dweud ffortiwn wedi dweud wrthi y byddai’n priodi dyn â’r llythrennau ML. At hyn roedd ei thad yn awyddus iawn iddi setlo i lawr a hithau bellach yn 31 mlwydd oed. ‘Rhoi’r caws tu allan i’r drws’ oedd y dywediad lleol am bwyso ar ferch i briodi. Wedi priodi bu’n byw efo’i theulu yng nghyfraith ‘a faswn i ddim yn cefnogi neb i wneud hynny’.

3. Margarette Hughes, Hendy-gwyn (9104) : Pan oedd hi’n yr ysgol ei hunig uchelgais oedd priodi a chael plant. Roedd hi eisoes yn caru gyda’i darpar-wr yn bymtheg oed. Eto aeth yn ei blaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd gan ddyweddïo yn ystod ei thymor cyntaf a phriodi ar ddiwedd y bedwaredd yn 1964.

4. Enid Jones, Merthyr Tudful (9254) : Ni theimlodd Enid bwysau arni i briodi erioed. Yn wir, i’r gwrthwyneb gan ei bod wedi cael addysg. Roedd ei rhieni yn teimlo i raddau ei bod wedi’u gadael i lawr a heb dalu yn ôl am ei haddysgu yng ngholeg prifysgol gogledd Cymru, Bangor a hyfforddi yn athrawes pan briododd hi yn 22 mlwydd oed yn 1958. Ni fu hi’n dysgu o gwbl nes wedi geni’i thri phlentyn.


C. DIM PRIODI

1. Nancy (A.S.) Jones, Porthaethwy (9579) : Ni phriododd Nancy erioed a does ganddi ddim plant, ond mae’n ‘Anti’ i lawer o blant yr ardal. Ni theimlodd erioed bwysau arni i briodi. Cafodd ei magu gan ddwy hen ferch ac roedd am dalu’r ffafr yn ôl iddyn nhw a gofalu amdanynt yn eu henaint.

2. C. Elizabeth Phillips, Y Bont-faen (9173) : Os oeddech chi’n mynd i mewn i broffesiwn ac yn mynd i ddysgu mewn ysgol i ferched roedd hi’n syndod cyn lleied o ddynion y byddech chi’n cwrdd â nhw. Sefydlodd ei chartre ei hun ddechrau’r pumdegau a chafodd hi ddim trafferth i gael morgais heblaw’r ffaith mai dim ond dau gwmni, sef the Church of England Mortgage Society a’r Halifax oedd yn fodlon rhoi morgais i fenyw sengl ar y pryd.

3. Muriel J. Howells, Pen-y-bont ar Ogwr (9248) : Fel athrawes a darlithydd wrth ei bodd yn ei gwaith ym maes addysg wnaeth hi erioed ystyried priodi o ddifrif. Roedd ganddi lawer mwy o ddidordeb mewn gyrfa ac ni theimlai iddi gyfarfod unrhyw un a oedd yn fwy diddorol na’i gwaith ar ôl ychydig wythnosau yn ei gwmni.

4. Eirlys E Thomas, Pen-y-bont ar Ogwr (9249) : Doedd dim diddordeb ganddi mewn priodi o gwbl a ‘dyna pam dwi wedi cwpla gyda bob dyn dwi wedi’i gal’. Eto roedd ei mam yn rhoi pwysau arni. ‘Dyna gyd oedd hi’n moyn oedd priodi, priodi, priodi’.

5. Anna Jones, Aber-soch (9287) : Cyfaddefa iddi deimlo ar ôl dychwelyd o Bontypridd i Aber-soch elfen o stigma o fod yn sengl. Ym Mhontypridd gallai fynd i’w “local” ar ei phen ei hun gan wybod yn siwr ei bod am weld rhywun o’i ffrindiau. Ni fedr wneud hynny yn Aber-soch. ... Mae’r bywyd cymdeithasol ... yn seiliedig ar gyplau. Mae’n teimlo yn wahanol.


CH. CYD-FYW ?

Oedd cyd-fyw yn opsiwn i’r siaradwyr a aned rhwng 1910 a 1950? A beth oedd eu barn am ffasiwn cyd-fyw ddiwedd yr ugeinfed ganrif?

1. Katie Williams, Llanystumdwy ( 8968) : ‘Na, `sa chi byth yn meddwl genwud hynny yr adeg hynny. ... I mi, ma’r byw efo’ch gilydd `ma yn beth ofnadwy `de. Swn i byth yn licio fo, `de’.

2. Laura Williams, Pwllheli ( 9296) : ‘Ewch annw’l nagoedd. Nagoedd. Nagoedd. “No way”. Dwi DDIM yn lecio hynna. W’rach mod i’n gul, dwi’m yn gwbod. Dwi ddim yn weld o’n fair ar y plant o gwbwl. Ma isho aelwyd ar y plant. A ma isho i blant fod rownd bwr’ yn bwyta efo’i gilydd efo’r rhieni’.

3. Megan Roberts, Caernarfon (8971) : ‘W, nagoedd. Bobol bach nagoedd. `Sa Mam ... byth `di caniatau hynny, a `sa fo’n `di taro’n meddwl ninnau i wneud `lly. ... `Sa fo’n groes i egwyddor Glyn a finnau achos doeddan ni ddim wedi cael ein magu fel `na. ... Os och chi isho cyd-fyw, och chi’n priodi gynta – dyna oedd y norm. ... Odd byw efo’ch gilydd heb briodi – doedd o’m yn rhywbeth och chi’n wneud `lly. Yn sicr, os och chi’n aelod o gapel `sa chi’m yn meddwl gwneud hynna’.

4. Sylwen Davies, Y Parc (8838) : ‘Ew, nagoedd. A fydde fo ddim wedi bod yn opsiwn i Bryn na fi `chwaith i ddweud y gwir, yn `de. Oedden ni’n dau yn teimlo ar y pryd – oedden ni’n dau yn Gristnogion o argyhoeddiad ... A fydde fo ddim yn opsiwn o gwbl i fyw efo’n gilydd, nag i gael cyfathrach na dim cyn priodi. ... mae `di newid yn ofnadwy rwan’.

5. Ellen Mary Hughes, Llangefni (9656) : Doedd cyd-fyw cyn neu yn lle priodi ddim yn ddewis, ‘byw tali oeddech chi adag honno os oeddach chi wrthi’.

6. Enid Williams, Bodffordd (9409) : ‘Odd priodi’n beth pwysig ers talwm yn `y meddwl i. Os oeddach chi isho cael plant a phetha felly, oeddach chi isho mam a tad iddyn nhw’.

7. OND credai Edna E. Willams, Llanrhuddlad (9563) : fod rhai yn byw yn ddelach efo’i gilydd na chyplau sydd yn priodi ac wedyn yn ysgaru.


D : Y BRIODAS

LLUNIAU PRIODAS :

Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy

Y dauddegau : Priodas ( trwy garedigrwydd Nansi Powell, Glynarthen)

Y tridegau : Priodas William Beynon Davies a Catherine May James yn Seilo, Llan-non, Ceredigion, 1936. ( trwy garedigrwydd Esyllt Jones, Gorseinon)

Y pedwardegau : (trwy garedigrwydd Llywela Morgan, Dre-fach, Llanelli)

Y pumdegau : Priodas Joseph a Margaret Davies, Beulah, Ceredigion, 1954. Brawd a chwaer y priodfab, Ifor ac Annie Davies oedd y gwas a’r forwyn) (trwy garedigrwydd Margaret Davies)

Y chwedegau : Priodas Dr Alun Jones a Dr Esyllt Jones (Davies), Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, 1968 (trwy garedigrwydd Esyllt Jones)

1. Paratoi ar gyfer y briodas ;

(i) Ann John, Bro Arberth (9229) : Byddai hi’n prynu tsieina mewn ffeiriau e.e. chwe phlât ag ymyl las arnynt ar gyfer ei ‘bottom drawer’ a phan na allai hi ei hun fynd i’r ffair deuai ei mam â ffeirin, fel basn siwgwr a jwg laeth, adre iddi i’r un pwrpas.

2. Priodasau bach :

(i) Siaradwraig o fro’r Bala (8842) : Doedd ei mam ddim yn fodlon o gwbl ei bod yn priodi athro yn lle ffermwr a ddaeth hi ddim i briodas ei merch. Priodas fach iawn gawson nhw felly.

(ii) Ray Samson, Tegryn (9500) : Priododd yng nghapel Llwyn-yr-hwrdd yn 1945. Yr unig aelodau o’i theulu oedd yno oedd dwy gyfnither a thalodd un ohonynt amdani. Teimla na ddaeth ei thad am nad oedd ganddo ddillad addas efallai. Wedi brecwast yn Rose Café, Caerfyrddin aeth y pâr ymlaen am fis mêl i Alltwalis. Roedd Ray wedi bod yn cadw pethau fel casys gobennydd ar gyfer ei ‘bottom drawer’ ac roedd wedi bod yn crosio matiau o gordyn beinder ar gyfer ei chartref newydd. Honna Ray na chai mwy na ddeuddeg dynnu’u lluniau gyda’i gilydd yn ystod y rhyfel.

(iii) Nansi Jones, Llan-non, Ceredigion (9784) : Wedi caru am bedair blynedd a dyweddïo penderfynon nhw briodi heb fawr seremoni ddechrau’r pumdegau gyda dim ond wyth gwestai. Aethant ar eu mis mêl i’r Pîl, Morgannwg a dyna’r gwyliau cyntaf a’r olaf iddynt eu cael fel pâr priod.

(iv) Siaradwraig o Lanfechell ( 9552) : Gan fod ei gwr yn ddyn tawel cawsant briodas fach ac ni chawsant dynnu lluniau priodas. O’r herwydd dim ond llun o briodas ei chwaer sy ganddi â hi’n gwisgo yr un siwt ynddi. Ar y pryd nid oedd yn gweld hynny’n biti ond hoffai petai ganddi lun erbyn hyn.

(v) Mair Williams, Pont-iets (8814) : Priododd yn y Swyddfa Gofrestru, Llanelli yn 1948 am fod ei gwr wedi cael cynnig dwy ystafell mewn ty ym Mhump-hewl. Lle moel, di-flodau â leino brown ar y llawr a llenni’r blacowt yn dal ar y ffenestri oedd y Swyddfa a dim ond pump arall oedd yn bresennol. Eto yn y brecwast yn ei chartref gwnaeth y tri dyn areithiau! Roedd ei llys-fam wedi prynu chwech gwydr gwin a sheri ar gyfer yr achlysur arbennig.

3. Priodasau adeg y rhyfel. Mae nifer fawr o’n siaradwyr wedi rhannu’r profiad hwn ac wedi disgrifio’r anawsterau a godai oherwydd fod eu teuluoedd wedi’u gwasgaru neu’u cariadon yn gorfod dychwelyd i ymladd, heblaw sôn am y dogni ar fwyd a dillad ymhell wedi gorffen y rhyfel ei hun a’r modd y goresgynnwyd y problemau gorau gallen nhw. Priodasau bach oedd llawer o’r rhain hefyd dan yr amgylchiadau. Eisoes cafwyd sawl cyfeiriad at y thema hon wrth drafod yr Ail Ryfel Byd.

(i) Mary Jones, Pen-y-groes, Caernarfon ( 9732) : Priododd hi a Dic ar ddydd Mawrth, Hydref 22ain, 1939 yn Swyddfa Gofrestru Caernarfon gan ei fod e wedi’i alw i’r fyddin ar y dydd Iau. Wedi canlyn am bum mlynedd doedd dim amser i drefnu priodas fawr. Dim ond pedwar oedd yn bresennol gyda chwaer Mary yn forwyn a chefnder Dic yn was.

(ii) Dr Eirwen Gwynn, Tal-y-bont (9465) : Priododd hi a Harri yn 1942. A hithau’n amser rhyfel penderfynwyd ar seremoni syml mewn Swyddfa Gofrestru ym Mangor gyda phobl llety Harri yn dystion. Chafodd Eirwen ddim dillad arbennig nag anrhegion priodas. Wedi’r seremoni aethant adre i Langefni i gael cinio a daeth mam Harri draw atynt.

(iii) Esther Elizabeth Griffiths, Mallwyd (9317) : Priodon nhw hefyd yn 1942. Mr Griffiths oedd yn bennaf gyfrifol am y penderfyniad gan bwysleisio y byddai Esther ar ei hennill yn ariannol gan y cai Bensiwn y Fyddin tra’r oedd e i ffwrdd. Bu’r pensiwn o gymorth mawr iddi. Priodon nhw mewn Swyddfa Gofrestru am fod Mr Griffiths eisiau gwisgo ei wisg filwrol yn hytrach na phrynu siwt newydd ac ni theimlent fod hynny yn addas mewn capel. Pedwar-ar-ddeg o westeion oedd yn bresennol.

(iv) Buddug Thomas, Genau’r Glyn (9458) : Priododd hi a Bill yn 1944 mewn capel ym Mhennant, Llanbryn Mair. Gwisgodd ffrog wen ac roedd ei chwaer yn forwyn iddi mewn glas a morwynion bach mewn pinc. Roedd digon o net i’w gael am ei fod yn cael ei ddefnyddio i arbed ffenestri rhag torri petai ffrwydrad. Ond roedd angen cwponau i gael peisiau i fynd o dan y net. Gwisgai’r esgidiau oedd ganddi yn mynd allan i ddawnsio. Chafodd hi ddim blodau “posh”, dim ond rhai o’r ardd yn y Drenewydd. Siwt wisgodd Bill. Doedden nhw ddim wedi anfon gwahoddiadau i’r briodas, dim ond gofyn i aelodau’r teulu a hoffai ddod. Daeth llond ysgoldy ac roedd ei mam wedi gofalu am frecwast priodas i bawb. Oherwydd y rhyfel cawsant hwy fwy o arian na nwyddau yn anrhegion a llwyddasant i brynu dwy sêt a “three piece suite” â’r arian.

(v) Jennie Lloyd Jones, Llangefni (9565) : Priododd â Rolant yn 1941. Roedd pedwar gweinidog yn y briodas : ei gweinidog hi, gweinidog Rolant, ewythr i Rolant a chefnder i Jennie. Eto doedd hi ddim eisiau unrhyw ffys gan fod ei brodyr i ffwrdd yn y rhyfel.

(vi) Peggy (M.M.) Lewis , Ystalyfera (9012) : Bu ei chariad yn garcharor rhyfel am bum mlynedd yn yr Eidal a chadwodd hi mewn cysylltiad ag e trwy ysgrifennu ato bob dydd trwy’r Groes Goch. Dwedai na allasai fod wedi byw yn ei newyn difrifol heb ei llythyrau. Bythefnos ar ôl iddo ddychwelyd priodon nhw er nad oedd wedi’i weld ers pum mlynedd.

(vii) Elsie M. Nicholas, Pontarddulais (9146) : Bu Glyn, ei chariad, yn y rhyfel am chwe mlynedd a hanner i gyd. Ond wedi rhyw dair blynedd dychwelodd a phriodon nhw. Cawsant fis mêl yn Llandrindod – rhodd gan y swyddfa lle’r arferai Glyn weithio. Roedd gwledd o ffowlyn ( yng nghanol y rhyfel!) yn disgwyl amdanynt yno. Yna ar y dydd Llun dychwelodd Glyn i’r fyddin. Cofia Elsie olchi stepen y drws y dwirnod canlynol â Cardinal a’r dagrau yn cwympo arno a chreu “blotches” mawr ar y garreg. Welodd hi mohono wedyn am dair blynedd.

(viii) Winifred Vaughan Jones, Cemaes (9601) : Cafodd hi a’i chwaer briodas ddwbl ganol y pedwardegau oherwydd fod bwyd yn brin ac y byddai un gacen yn gwneud yn iawn rhyngddynt.

4. Cyffredinol

(i) Margaret May Davies, Trefdraeth (9207) : Ar ôl y brecwast priodas yn Peniel, Cemaes yn 1936, gan na ddeuai tynnwr lluniau allan i’r briodas aeth tri char lawr i Hwlffordd i gael lluniau swyddogol.

(ii) Phyllis Edna Thomas, Brynaman (9156) : Pan ddaethant yn ôl o Landeilo wedi’r briodas i Frynaman roedd ei mam wedi gwneud naw torth o “boiled cake” a gwahodd cymdogion i mewn i’r ty a chawsant wledd.

(iii) Margaret Hopkins, Mynach, Ceredigion (9269) : Gwnaethpwyd ei ffrog briodas hir ddiwedd y pedwardegau gan Miss Jones, Penrhodyn, Tregaron a oedd yn wniadyddes dda iawn. Lliw ‘orchid pink’ ydoedd â lês drosti. Cafwyd anhawster i gael blodau am ei bod yn priodi ar ddydd Llun Gwyl y Banc a’r siopau ar gau. Ond daeth gwraig Dr Williams, Tregaron i’r adwy a threfnodd fod pys pêr yn cael eu hanfon i lawr ar y tren o Covent Garden.

(iv) Beryl Jones, Llanelwy (9139) : Cafodd ei gwledd briodas yn Green Witch Café, Rhuthun gyda rhyw 60 o westeion yn 1947. Salad a ham, cacennau, bara brith a threiffl oedd y wledd a chostiodd 5swllt y pen gan roi bil o £19 ar y diwedd, gan gynnwys y gacen briodas dair haen.

(v) Sylwen Davies, Y Parc (8838) : Yn Festri Capel Tegid, y Bala, y paratowyd y bwyd gan wraig o’r Bala ar gyfer 70 o westeion yn 1956. Costiodd 10swllt y pen, cyfanswm o £35.

(vi) Joan Davies, Aberteifi (9094) : Priododd yn eglwys Llangoedmor yn 1956 a pharatowyd y wledd o salad oer gyda ham a chig oer a threiffl gan ei theulu yn yr hen ysgol.

(vii) Gwen(llian) Jones, Llanybydder ( 9492) : Roedd hi’n 25 mlwydd oed a’i darpar-wr yn 29 oed yn priodi yn 1960 ac ystyrrid hynny yn hen ar y pryd. Credai llawer ei bod hi ar y silff pan gwrddodd â’i gwr! Priodon nhw yng Nghapel y Methodistiaid, ym Mhorth Talbot a gwisgodd ffrog hir o lês lliw hufen o Belmonts, yr “in” lle bryd hynny yn Abertawe. Gwisgai’r dynion “morning suits, striped trousers” a siacedi duon. Cafwyd y wledd yn y Grand Hotel, Porth Talbot. Ei mam dalodd am y ffrog ond gan ei bod yn weddw, talodd Gwen ei hun am y gweddill.

EDRYCHWCH ar lun o dair chwaer Gwen yn ei phriodas yn 1960. (trwy garedigrwydd
Gwen Jones)

Cliciwch yma i wneud yn fwy

(viii) Joyce Phillips, Ffynnon-groes (9226) : Gwin di-alcohol oedd y ddiod yn ei phriodas yn neuadd y pentre yn 1951.

(ix) Gwenda Lloyd Jones, Llan Ffestiniog (8891) : Priododd yn Llan Ffestiniog yn 1961. Cafwyd y brecwast yn festri’r capel gyda’i mam wedi paratoi’r bwyd a merched y capel yn gweini. ‘Dwi’n cofio Mam yn gwneud rhyw lemonêd cartre a dyna oedd diod y “toast”’.

(x) Mair Davis, Dinas, Penfro (9468) : Priododd yn 1966 a gwisgodd ffrog wen syth hir a thraen hir y tu ôl iddi. Roedd ganddi “veil” hefyd a blodau rhosod ffres. Yn y wledd yng Ngwesty’r Bae, Abergwaun gweinwyd sheri i’r 75 gwestai a oedd yn bresennol.

(xi) May Jenkins, Hwlffordd (9496) : Priododd yn 1960 yng Nglan-dwr, Penfro. Daeth cant a hanner o westeion oherwydd fod ei gwr eisiau diolch i bawb a fuasai mor garedig wrtho pan oedd yn wael. £62 oedd y gost a rhannodd y ddau deulu gyfrifoldeb y bil am y brecwast yn yr ysgol.

(xii) Dwynwen Jones, Llangadfan (9751) : Ar y bore y priododd, Mai 18fed, 1957, roedd y fwyalchen yn canu, canu, canu mewn coeden wrth y ty. Cawsant y brecwast o gyw, ham, salad, bara menyn, cacennau, treiffl a glasied o “port” efo’r gacen yng Ngwesty’r Dderwen Frenhinol, y Trallwng, ac yna i ffwrdd am bythefnos o fis mêl i’r Iwerddon. Roedd rhywun wedi dweud wrth ei gwr, ‘Cer am bythefnos achos gei di fyth gyfle i fynd am bythefnos eto’ ac felly y bu.

(xiii) Eirlys Phillips, Machynlleth (9498) : Yn eu priodas yn y pumdegau yng Nghefneithin roedd y brecwast yn festri capel Tabernacl a’r unig ddiod oedd gwin cymundeb. I Lundain yr aethant ar eu mis mêl a dyma’r tro cyntaf i Eirlys fentro yno.

(xiv) Eirlys Peris Davies, Ffynnon-groes (9518) : Fel merch i weinidog a chanddo ofal sawl capel roedd yn rhaid i Eirlys a’r teulu fod yn hynod ofalus wrth drefnu’i phriodas yn 1954. Gan iddi ofyn i Lorenza, ei ffrind o gapel Bryngwyn fod yn forwyn iddi bu’n rhaid cael morwynion o gapeli Bethesda a Thre-wen yn ogystal. Felly hefyd gyda’r organyddes cafwyd un yr un o gapeli Tre-wen a Bethesda – rhag pechu unrhywun. Gwin cymundeb a gawsant i yfed ac nid oedd alcohol yno o gwbl.

(xv) Margaret Davies, Beulah (9488) : Priododd yn 1954 yng nghapel Beulah a chafwyd brecwast priodas ym mhlas Llwyndyrus. Gwisgodd Margaret ffrog las gole â lili’r dyffrynnoedd drosti. Am ei phen roedd ‘skull cap’ a bwnshyn o flodau ar bob clust. Doedd hi ddim eisiau ffrog hir wen oherwydd teimlai mai ar gyfer teuluodd gwell, swanc yr oeddynt a byddai angen i’w gwr wisgo “morning suit”. Cawsai ei gwr ei bryfocio dipyn am ei fod yn priodi athrawes oherwydd dwedid na fyddai hi fawr o werth iddo ar y fferm.

TORRI’R GACEN :

EDRYCHWCH AR Y LLUNIAU O’R SEREMONI BOBLOGAIDD HON :

Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy

(a) 1950 (trwy garedigrwydd Nan James)

(b) Joseph a Margaret Davies, Beulah, 1954 (trwy garedigrwydd Margaret Davies)

5. Priodasau anarferol :

(i) Dorothy Miarczynska, Llanuwchllyn (9114) : Roedd darpar-wr Dorothy wedi bod yn garcharor rhyfel yn Skegness gydol y rhyfel ond tua 1949 ymwelodd â chyfaill yn Llanuwchllyn a chwrdd â Dorothy. Priodon nhw y flwyddyn honno yng Nghapel Glanaber gyda’r Parch. Rhys Thomas yn gwasanaethu. Ychydig o westeion oedd yno gan nad oedd teullu’i gwr yn agos. Aeth ef drwy’r gwasanaeth yn y Gymraeg a chanwyd ‘Hen Wlad fy Nhadau’ ac anthem genedlaethol Gwlad Pwyl.

(ii) Elizabeth Doroshenko, Eglwys-bach (9669) : Un o’r Wcráin oedd ei darpar-wr a daethai gyda chriw o gyd-wladwyr fel adeiladwyr i Gymru. Ar ôl canlyn am dair wythnos gofynnodd ef iddi ei briodi. Ofnai hi ddweud wrth ei rhieni. Ac yn wir credent ei bod yn gwneud ‘peth gwirion’. Priodas fechan iawn, gyda dim ond ei nain yn bresennol gawson nhw ddechrau’r pumdegau. Bellach maen nhw newydd ddathlu 51 mlynedd o fywyd priodasol.

(iii) GWRANDEWCH ar Erinwen Johnson, Abergele (9723) yn disgrifio ei phrofiadau hi wrth iddi garu, priodi a byw gyda dyn du ei groen o Jamaica gyda Sharon Owen. Priododd yn 1954 yng Ngwytherin :

Cliciwch yma i wneud yn fwy

Sharon : Ia, och chi’n sôn bo chi `di cyfarfod Mr Johnson yn Llundain , ie, oeddach chi’n deud bod o’n dywyll `i groen `lly, ie, beth oedd ymateb pobol i hynny `ta – gweld y ddau ohonach chi allan?
Erinwen : Peidiwch â sôn – fasa hynna’n gneud llyfr! O diar mi! Fedra i ddim dallt – wn i’m sut wnesh i ddal hefo fo a deud y gwir, achos fyddan ni’n mynd i gaffis a naen nhw ddim serfio ni w’chi. Fyddan ni’n mynd i hotels a fyddan nhw’n deud “We don’t want people like this here” – “I mean” - mor ddiweddar â ryw ddeng mlynedd yn ôl. ...
Sharon : Sut oeddach chi’n teimlo `ta wrth weld y bobol ‘ma yn?-
Erinwen : Fedra i ddim deud wrthach chi – oedd o’n loes – oedd o YN loes, bod pobol yn cael eu trin mor sobor yn `rhen fyd `ma. Oedd o yn loes – ond on i hefyd yn ddiniwed. Y diwrnod ddaru ni briodi `de, oedd `na bobol bob cam o Gwytherin i Llanrwst, lle roeddan ni’n cael ein pryd priodas – oedd dim ond “twenty five” o bobol yn dwad. Mae’r teulu yn enfawr, yn enfawr ond doedd pobol ddim yn dwad. Ddoeth `n chwaer i’n hun ddim. ... Oedd hi’n sobor wir.
Sharon : Be oedd y rheswm pam doeddan ddim yn dod `ta? achos bod ... ?
Erinwen : Ia, mae’n siwr gen i, mae’n siwr gen i. Ond fedrwch chi weld, wir , pan dach chi’n edrych yn ôl, fedrwch chi weld, dodd o’m yn beth i `neud falle. Ond dwi `rioed wedi poeni, `di poeni erioed beth ma pobol yn feddwl ohona i. A wedyn ma hynny a hefyd oeddwn i’n ddiniwed. Fel oeddwn i’n deud wrthach chi pan oeddan ni’n mynd rwan i’r brecwast priodas `ma rwan, ar hyd y way, o Gwytherin i Llanrwst oedd pobol yn giatia’r fferm yn wafio, reit? Dwi’n deud y gwir wrthach chi rwan – on i, wir rwan, yn meddwl bod nhw wedi dod i `ngweld i – wir yr rwan. Nesh i ddim dallt ma dod i weld y dyn (du) oeddan nhw. Doeddan nhw `rioed wedi gweld un o’r blaen.

6. Anrhegion priodas :

(i) Alice Morris, Rhuallt (9174) : Rhoddodd ei thad dair buwch iddynt i ddechrau bywyd ar fferm ar rhent yn 1945.
(ii) Jennie Eirlys Williams, Deiniolen ( 8783) : Cawsant lawer o dyweli, clustogau, ‘rolling pin’, ‘cake stand’, llwyau ffrwythau, jwg a gwydrau gwin. Sylweddolai Jennie werth y nwyddau gan fod pethau yn dal yn brin wedi’r rhyfel.

7. Arferion priodas :

(i) rhwystro llwybr y briodas :
Eirwen Jones, Y Bala (9045) : Cofia’r arfer o roi rhesaid o ddillad ar draws y ffordd y
noson cynt o lle bynnag y byddai’r mab neu’r ferch yn mynd i briodi. Dillad plant a ddefnyddid gan amlaf.
Beryl Hughes, Rhydypennau (9452) : ar ddiwrnod ei phriodas roedd rhywun wedi rhoi steamroller a thorri dwy neu dair coeden ar draws y ffordd. At hyn roedd rhywrai yn saethu â gynnau.

EDRYCHWCH ar y LLUN cyfoes hwn o’r arfer o rwystro ffordd y briodferch mewn priodas yn Ninas Mawdday yn y flwyddyn 2000. (trwy garedigrwydd Betsan Morris, Dinas Mawddwy)

Cliciwch yma i wneud yn fwy

Beti Evans, Llwynpïod (9781) : ar y ffordd i’w phriodas bu’n rhai iddi daflu arian at sawl grwp o blant i dynnu’r rhaffau oedd ar draws y ffordd i’r capel.

GWRANDEWCH ar Megan Laura Griffiths, Y Sarnau (9046) yn sôn am arferion priodas yn ei hardal mewn sgwrs gyda Alwena Williams :

Megan : Dwi’n cofio mhriodas `n hun ynde, priodas –oedd, byd ofnadwy.
Alwena : Tua pa flwyddyn oedd hynny?
Megan: 1945 oedd `n un i – Mehefin. A oedd acw un dyn o Birkenhead yn aros acw (oedd Mam yn cadw pobol ddiarth amser hynny ac oedd `cw un o Birkenhead yn y
flwyddyn honno). A’r noson cynt ac oeddan ni’n godro chi’n gwbod efo llaw, stôl; methu cael y stôl y bore hwnnw i fynd i odro ynde, rhywun wedi’i chuddio hi – helynt mawr. Ac roedd y dyn `ma yn mynd i’r pistyll – yn rhedeg dipyn bach o’r ty fel’na dros y ffordd yn yr allt. Ac oedd y dyn `ma (oeddan nhw yn licio mynd cael mynd allan – oedd `na ddim dwr yn ty `ramser hynny, nagoedd) – y dyn yma yn licio cael mynd i’r pistyll i `molchi. A dyna fo yn `i ôl – O! oedd o wedi dychryn! – oedd o’m meddwl fod rhywun wedi crogi’i hun ar draws yr allt – rhywun oedd wedi rhoi hen racs – a hen ddillad, lein `dach chi’n gwbod
Alwena : ar draws yr allt
Megan : ar draws yr allt wrth y pistyll wrth y fynwent yn fan’cw. W! oedd o wedi -dychryn; oedd o’n meddwl fod rhywun wedi ... a dyna fo. Mi aeth y bore hwnnw heibio a wedyn cyrraedd Pen’rallt – y briodas rwan ynde, O! oedd `na ddyn gwellt ar dop yr allt, Pen’rallt - wedi’i wneud yn berffaith a motobeic – dyn wedi’i wneud efo gwellt. Wel odd o wedi’i wneud yn - oedd o’n ffit i fynd i gystadleuaeth `te – cetyn yn `i geg am wn i - ddyn bychan. Pen’rallt oedd wedi gwneud hynny `de. Oedd hwnnw ar ganol y ffordd i rwystro ni i fynd.
Alwena : I rwystro eto , ie
Megan : Wedyn draw am fferm Coedybeda wedyn oedd `na lori laeth a canie llaeth ynddi
Alwena : ar draws y ffordd?
Megan : Wrth droad y ffordd yn fan’ne – yn rhwystro ni fynd ynde; a Gwyneth Coedybeda a Mair Ty’ncoed y ddwy mewn cotie gwynion yn trio handlo’r canie llaeth yna bob ryw lathen – rywbeth i rwystro ni fynd. Rywbeth i rwystro ni fynd. ... A wedyn wedi i ni fynd i Parc Cefnddwysarn Robert Ellis druan, parchus gof amdano, hwnnw mewn rhyw hen dun crwn mawr – hwnnw ar ganol y ffordd. A oeddan ni’n hwyr yn cyrraedd yno beth bynnag a’r pregethwr Gwion Jones wedi gwylltio braidd yn diwedd yn aros mor hir’.
Alwena : Och chi’n hwyr iawn yn cyrraedd
Megan : Wel oedd, dipyn bach wir.
Felly byddai llawer o helynt efo priodasau a Bob Lloyd ( Llwyd o’r Bryn) oedd yn llywio llawer o’r helyntion hyn yn ardal y Sarnau.


EDRYCHWCH ar y LLUN o Megan L. Griffiths gyda’i meibion, John a William, ar eu haelwyd yn Rhydywernen, Sarnau, yn 1960.

Cliciwch yma i wneud yn fwy

Jane Gwladys Evans, Y Parc (9107) : Cofia Jane hithau sut yr arferid ceisio rhwystro’r mab a’r ferch rhag cyrraedd y briodas trwy saethu mawr a hongian dyn a dynes wellt ar weiar. Ond cafwyd un tro trwstan pan benderfynwyd rhoi bwcedaid o ddwr uwchben y fynedfa i’r capel. Yna gollwng ergyd a byddai yn tasgu allan yn fân neis. Ond yn anffodus saethwyd twll rhy fawr a daeth y dwr am ben y briodferch. ‘Unwaith buo fo a roedd unwaith yn ddigon’. Mae’r arferiad o saethu yn dal i fynd er dipyn llai erbyn heddiw. Digwydd pan fo’r briodferch yn cyrraedd a thrachefn wrth i’r pâr ddod allan o’r capel.

(ii) Letitia Vaughan, Felin-fach (9793) : Disgrifia sut yr arferid mynd â blodau priodas i’w dodi ar fedd anwyliaid wedi’r seremoni.

(iii) Elen Evans, Garndolbenmaen ond am ardal Cricieth (8976) : Priododd yn 1964 a daeth criw mawr o drigolion Cricieth a chriw o blant yr ysgol gynradd i’r capel i weld y briodas. ‘Oeddach chi ymysg ffrindia wedyn, odd bob dim yn iawn’.

(iv) Catherine Elizabeth Davies, Glyn Ceiriog (9609) : Os byddai’r pâr yn aelodau yn y capel lleol neu’r gwr yn gweithio yn y chwarel byddent yn gollwng ffrwydron ‘clecars’ i ddathlu’r briodas yn y chwarel.

(v) S. Eileen Williams, Hendy-gwyn (9074) : Gan fod ei gwr yn gweithio ar y rheilffordd a hwythau’n teithio ar eu mis mêl ar y tren clywid hwterau yn gwneud swn mawr wrth iddynt adael Hendy-gwyn.

(vi) Harriet Rowena Millward, Porth-cawl (9252) : Priodon nhw yng nghapel Tabor, Llan-saint ac fel Saeson roedd teulu’r gwr yn rhyfeddu at y canu yn y capel bach, y saethu gyda dryll a’r lori lo a oedd y tu allan yn unol â thraddodiad.

(vii) Mair (M.A.) Mathewson, Lon-las (8997) : Deuai’r dyn glanhau ‘shwmle’ i briodasau, yn frwnt fel yr oedd i groesi’r ffordd o flaen y pâr ifanc a dod â lwc iddynt.

(viii) Nan (E.A.) Davies, Abertawe (9030) : Gweithiai yn Swyddfa’r Post, Creunant yn y tridegau a chofia boblogrwydd mawr y teligramau priodas. Os oedd tair priodas ar ddydd Sadwrn â rhyw 20 teligram i bob un roedd yn waith caled.


DD : ‘GOING AWAY’ A’R MIS MÊL I ‘FWRW SWILDOD’ :

EDRYCHWCH ar y lluniau o’r wisg ‘going away’ a’r mis mêl :

Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy

(a) Nan James, Castell Newydd Emlyn, 1950 (trwy garedigrwydd Nan James)
(b) Jenny Griffiths, 1954 (trwy garedigrwydd Jenny Griffiths)
(c) Mis mêl yn Weston super mare 1949 (tryw garedigrwydd Eileen Williams)

(i) Afonia (S.E.) Evans, Abergwaun (9506) : Yn 1947, yng nghapel Penmorfa, Aberteifi y priododd Afonia a Danny Evans. Dalion nhw fws o Aberteifi i deithio ar eu mis mêl i’r Iwerddon a chofia’r bws yn stopio a’i thad yn dod i mewn a rhoi decpunt iddi. Roedd wedi anghofio ei roi iddynt yng nghynt. ‘Outfit binc posh iawn’ oedd ganddi ar gyfer ‘ going away’.

(ii) Marian Gwenllian James, Glynarthen (9097) : Priododd yng nghapel Bryngwenith yn 1947 ac ar ôl brecwast yn y Grosvenor, Aberteifi, cawsant un diwrnod i ffwrdd o’r gwaith cyn ail-ddechrau ffermio ar fferm ei rhieni. Nid chafodd fis mêl felly ac nid yw wedi bod ar wyliau erioed.

(iii) Margaret Lloyd Evans, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch (9693) : Priodon nhw yn 1947 a theithio o Ddinbych i Fae Colwyn ar eu mis mêl. Roedd yn rhaid iddynt fynd â’u bwyd, yn datws a garetsh, cyw a chwningen a bacon efo nhw a byddai gwraig y ‘boarding house’ yn cwcio iddynt.

(iv) Siaradwraig o Landrillo (9111) : I’r Eil-o-man yr aeth y pâr ifanc tua 1950 gan fod y ddau wrth eu boddau â beiciau modur ac eisiau gweld y rasys beiciau yno.

(v) Eirlys Peris Davies, Ffynnon-groes (9517) : I Landudno yr aethant yn gyntaf ar eu mis mêl yn 1954 a’r bwriad oedd mynd ymlaen i’r Eil-o-man. Oherwydd gor-areithio yn y brecwast yn Llwyndyrus collodd Geraint ac Eirlys y tren o Aberystwyth ( roedd ffrindiau wedi’u gyrru i Aberystwyth) a bu’n rhaid mynd â nhw ymlaen i Dovey Junction. Ymlaen wedyn i Fangor a dal bws i Landudno. Roedd hithau yn ei “going away suit” a phawb yn gwybod mai pâr newydd briodi oeddent. Wedi cyrraedd y gwesty roedd wedi newid dwylo a dim lle iddynt. Cawsant gynnig matres mewn bath a gwely “camp” gerllaw ar gyfer noson gyntaf eu mis mêl!

(vi) Sylwen Davies, Y Parc (8838) : Cafodd Bryn a Sylwen wythnos yn Torquay cyn hedfan o Lundain i Nice yn Ffrainc. Yna aethant ar daith bedwar diwrnod o gwmpas y llynnoedd – Maggiore a Garda ac ymlaen i Milan a Turin. Doedd mynd tramor ar fis mêl ddim yn gyffredin o gwbl yn 1956 a dyma’r tro cyntaf i Sylwen ei hun hedfan.

(vii) Laura Wyn Roberts, Morfa Nefyn (9281) : Priododd yn 1964 ac aethant ar eu mis mêl i Majorca.




  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.