Roedd mynd yn nyrs yn uchelgais gan lawer o ferched ifainc rhwng 1920 –1960 ac fe’i cyfrifid yn swydd barchus iawn. Roedd yn rhaid bod yn 18 oed i ddechrau hyfforddi a chymerai dair blynedd i hyfforddi yn SRN – State Registered Nurse (nyrs wedi’i chofrestru gan y wladwriaeth) cyn mynd ymlaen i fod yn chwaer (sister) ar ward mewn ysbyty, neu i weithio allan yn y gymuned fel nyrs ardal neu fydwraig.

Proffesiwn i ferched oedd nyrsio tan ddiwedd yr ugeinfed ganrif a doedd dim llawer o ferched yn mynd ymlaen i fod yn feddygon nac yn llawfeddygon tan tua’r 1960au ymlaen. Daeth newid mawr ym myd iechyd pan gafwyd Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ym 1948. Nawr roedd llawer mwy o bobl yn mynd i mewn i ysbytai i gael eu trin a menywod i gael eu babanod.

Mae’r llun hwn yn dangos ward yn ysbyty Casgwent tua 1952.

Gwrandewch yn ofalus ar Ann Roberts yn sôn am hyfforddi i fod yn nyrs ym Mangor tua 1941. Cafodd ei geni yn Llanwddyn, Powys ac mae’n byw yn awr ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn yr ysgol uwchradd gofynnodd y prifathro iddi ystyried mynd yn feddyg ond doedd hi ddim wedi astudio Cemeg, felly aeth yn nyrs. Roedd wedi gobeithio mynd ymlaen i fod yn ymwelydd iechyd ond priododd yn 24 mlwydd oed a dim ond gweithio rhan amser wnaeth hi wedyn.

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.