Mae’r uned hon yn dangos unwaith eto sut y cyfrannodd menywod at yr ymdrech ryfel. Ym mis Mawrth 1941 pasiwyd deddf yn gorfodi pob menyw rhwng 19 a 40 oed i gofrestru ar gyfer gwaith, ac ym mis Rhagfyr penderfynwyd fod yn rhaid i bob merch sengl 20-30 oed ymuno â’r lluoedd arfog neu weithio mewn diwydiant, os nad oeddynt eisoes yn cyfrannu at yr ymdrech. Sôn am weithio fel tocynwyr ar fysys , gyda’r Groes Goch ac yn y Llu Awyr a wneir yma ond cofier fod llawer o ferched, hefyd, wedi bod yn gwneud bomiau a sieliau mewn ffatrïoedd enfawr a pheryglus. Cafodd hyn effaith anferth ar fywydau llawer ohonynt.

Tocynwyr (conductors) oedd y menywod yn y llun cynta, a’r menywod yn yr ail lun yn gweithio i’r Groes Goch yn y Drenewydd.

Cafodd Winifred Owen o Lanrwst amser diddorol a gwahanol yn ystod y rhyfel. Ymunodd â’r Llu Awyr (WAAF – Women’s Auxiliary Air Force), ac wedi cyfnod yn hyfforddi bu’n gweithio yn pacio parasiwtiau ac yna yn gofalu am yr Americanwr enwog, y Cadfridog Eisenhower. Gwrandewch ar ei stori ryfeddol.

  
    

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.