Pa ddewisiadau oedd gan ferched (a bechgyn) ym myd gwaith `slawer dydd? Safai rhai plant, os oedden nhw eisiau ac os gallai eu rhieni fforddio hynny, arholiad y ‘scholarship’ yn 11 oed a mynd ymlaen i ysgol ramadeg. Ond roedd mwyafrif y plant yn aros ymlaen tan eu bod yn 14oed (tan 1944) yn yr ysgol gynradd a châi’r merched wersi coginio, glanhau a golchi i’w paratoi i fynd i wasanaethu / gweini ar ffermydd neu mewn tai preifat. Yna, gadael yr ysgol a mynd i weithio fel morwyn fach a chysgu i mewn lle roedd yn gweithio.

Dyma lun o ddosbarth coginio yn ysgol gynradd y Ffôr ger Pwllheli tua 1921.

Gwrandewch ar Gwladys Roberts yn adrodd ei hanes yn dechrau gweini yn ardal Betws-y-coed ym 1934. Hi oedd yr ail blentyn mewn teulu o 13 o blant ac felly, ar ôl gadael yr ysgol yn 14 mlwydd oed, aeth allan i weini er mwyn cael arian i helpu’r teulu. Chafodd hi ddim cyfle i sefyll y ‘scholarship’ oherwydd i’r teulu symud pan oedd hi’n 11 oed.

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.