Doedd dim dwr 
                yn rhedeg yn llawer iawn o gartrefi Cymru (yn enwedig yn y wlad) 
                tan wedi’r Ail Ryfel Byd, a hyd yn oed tan ddechrau’r 
                chwedegau. Golygai hynny fod yn rhaid cario dwr o bistyll, ffynnon 
                neu bwmp yn y pentre er mwyn sicrhau digon o ddwr i olchi dillad, 
                i lanhau’r ty, i ymolch y corff a’r gwallt ac i olchi 
                llestri a choginio.
                
                Yn wir yr oedd cario dwr yn llafurwaith caled, ac yn aml gwaith 
                un o ferched y teulu fyddai nôl y dwr cyn neu ar ôl 
                yr ysgol. Byddent yn casglu dwr glaw mewn casgenni ac roedd hwn 
                yn ddigon glân ar gyfer golchi dillad ond nid i’w 
                yfed nac i goginio. Doedd dim bathrwm, bath na chawod yn y rhan 
                fwyaf o dai ychwaith ac felly unwaith yr wythnos, ar nos Sadwrn 
                ar gyfer y Sul, gan amla, y byddai plant yn cael bath a golchi’u 
                gwallt.
                
                Mae’r 
                llun hwn yn dangos gwraig yn cario dwr yn ardal Hendy-gwyn, Sir 
                Gaerfyrddin tua 1920.
                
                Disgrifia 
                Megan Roberts o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, ei bywyd yn blentyn 
                tua 1938. Roedd ei rhieni yn berchen siop ac felly roedd ganddynt 
                dy mawr o frics coch a gafodd ei adeiladu gan ei thad a’i 
                thaid. Eto, er bod bathrwm yn y ty, doedd dim dwr poeth na thy 
                bach ganddyn nhw. Doedd dim trydan yn ei chartref tan 1956.