Cyn yr Ail Ryfel Byd doedd dim cinio ysgol yn cael ei baratoi ar gyfer y disgyblion. Byddent naill ai yn mynd adre i ginio neu yn dod â phecyn o fara a chaws, a the oer i’w boethi ar stôf lo yr ysgol. Ond yn y pedwardegau dechreuwyd cyflogi staff cegin i baratoi ciniawau poeth i’r plant i gyd. Byddent yn prynu’r cig a’r llysiau yn lleol ac yn coginio popeth eu hunain mewn ceginau ysgol newydd sbon.

Talai’r plant am y cinio ddechrau’r wythnos. Menywod fyddai yn gwneud y gwaith hwn bob amser a daeth y swydd hon, a swyddi tebyg yn coginio a glanhau mewn ysbytai, gwestai a chartrefi plant a henoed, i gymryd lle gwaith y forwyn yn gweini neu wasanaethu' slawer dydd.

Mae’r wraig hon yn paratoi cinio blasus i blant mewn ysgol yng Nghroesoswallt, ar y ffin â Chymru, tua 1954.

Gwrandewch ar Ray Samson yn disgrifio ei gwaith fel cogyddes yn ysgol gynradd Tegryn, Penfro. Dechreuodd weithio yn 1960 a bu yno am 25 mlynedd.

  
    

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.