|  |  | Ag 
            oriau gwaith yn hir ac oriau hamdden yn brin roedd yn rhaid i bobl 
            ifainc `slawer dydd fanteisio ar bob cyfle posibl i gwrdd â 
            darpar gariadon. Ond, ar y cyfan, roedd bywydau y menywod a holwyd 
            yn bur gyfyng a’u rhieni yn warchodol iawn ohonynt rhag iddynt 
            ‘fynd i drwbwl’. Dengys yr hanesion cyntaf a ddyfynnir 
            fod y siaradwyr, yn ferched ifainc, yn ddibynnol ar galendr y flwyddyn 
            amaethyddol ac ar weithgareddau’r capel i roi cyfle iddynt gwrdd 
            i garu. Ond yna, yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn union cyn a fwyfwy 
            wedi’r Ail Ryfel Byd, gwelwyd newid pwysig wrth i gwlt yr ifanc 
            ddechrau datblygu, gyda chlybiau ac adloniant penodol ar eu cyfer. 
            Bellach roedd ganddynt fwy o amser a thipyn mwy o arian i’w 
            wario ar hamddena a mwynhau. Erbyn y chwedegau daeth yn arferol iddynt 
            herio safonau a moesoldeb eu rhieni, er mai prin iawn yw’r dystiolaeth 
            fod gwrthryfel y ‘swinging sixties’ wedi cyrraedd Cymru 
            mewn gwirionedd yn ei gyfnod. Ewch i’r is-thema briodol 
              :A. Ble i gwrdd
 B. Rhybuddion Rhieni
 C. Merched comon
 CH. Cael cariad
 A. BLE I GWRDD : (i) Ffeiriau 
              : Tystiodd sawl siaradwraig am bwysigrwydd y ffeiriau lleol 
              yn eu calendr carwriaethol, e.e. ‘Rhoddodd e winc arni’ 
              yn ffair Aberteifi meddai A. Mag Williams, Cylch y Mwnt (9093) am 
              ei chariad; yn ffair Llambed y cwrddodd C.E.(Kitty) Evans, Felin-fach 
              (9667) â Bertie; ac felly hefyd y soniai Lizzie Mary Evans, 
              Aberaeron (9776) am ffair y Sulgwyn yn y dre; Mary Llywelyn, Login 
              (9235) am ffair Maenclochog; Dorothy Davies, Pontyberem (8807) am 
              ffeiriau Calangaea a Gorffennaf yng Nghaerfyrddin a dwy ffair Llanybydder 
              a Mair Garnon James, Llandudoch am ffair Eglwyswrw. Bu hithau Mary 
              Jane Davies, y Foel yn dilyn ffeiriau, yn enwedig ‘Ffair Ffyliaid’ 
              Llanerfyl ar Fai 7fed ac ‘os na gelech chi gariad yno, roedd 
              hi’n ddrwg iawn arnoch chi’. Hyd yn oed yn y pumdegau 
              roedd Ffair Llanllyfni yn lle da i ‘wneud points’ yn 
              ôl Mary Hughes, Y Groeslon (8828). GWRANDEWCH ar Ellen Vaughan 
              Ellis, Y Ffôr (9291) yn dwyn i gof yr hwyl yn ffair 
              Cricieth, yn y pedwardegau, mewn sgwrs gyda Sharon Owen : Sharon 
              : Be oeddach chi’n 
              licio am fynd i ffair Griciath `ta? Ellen : O chwilio am gariad oedd peth mwya ‘te, yr 
              adag honno. Ie, a mi ges i un ylwch. Mi fues i’n lwcus `do?
 Sharon : Oeddach chi’n teimlo ar y pryd fod `na ryw 
              bwysa i drïo ffindio gwr.
 Ellen : `Radag honno? Na, allach chi gael digon o gariada 
              adag honno.
 Sharon : Be oedd yn sbesial am Mr Ellis `de?
 Ellen : O hogyn del oedd o, `de. Odd ganddo fo gar, doedd 
              – odd hynny’n bwysig iawn, cofiwch â hwd arno 
              fo (chwerthin).
 Sharon : Ia, pa mor bwysig oedd hynna `ta? Pam fod hynna’n 
              bwysig?
 Ellen : Wel i chi gael dangos i’r lleill `de bod gynnoch 
              chi gariad â car. O diar ia, ia.
 Sharon : Am faint fuoch chi’ch dau yn canlyn `lly cyn 
              i chi briodi?
 Ellen : O llawar iawn – “off and on” w’chi 
              – felly buon ni. Lawar iawn hefyd .
 (ii) Adeg 
              cneifio : Mae Sylwen Davies, Y Parc (8838) 
              yn disgrifio arfer arbennig iawn adeg y cneifio pan oedd hi’n 
              gweithio ar fferm Pant Neuadd, Y Parc yn y pumdegau, arfer efallai 
              a oedd yn rhyw fath o ddefod tyfu’n fenyw neu yn ddefod ffrwythlonedd 
              tebyg i ffocso neu dwmlo merched yn y gwair yn y de-orllewin.GWRANDEWCH arni’n trafod manylion yr arfer 
              :
 
 ‘Oedd hi’n arferiad 
              efo’r cneifio, efo merched, i’w taflu nhw i mewn i’r 
              barcloth, chmbod, fel rhyw ddarn mawr lle oedden nhw’n cadw’r 
              gwlan ydi’r barcloth – ag oeddan nhw’n taflu nhw 
              fewn a’u hysgwyd nhw fel hyn. Wel y flwyddyn gynta, oeddwn 
              i’n feichiog erbyn hyn efo Gareth on’d on – diwedd 
              mis Mehefin oeddan ni wastad yn gneud – y dydd - y dydd Mawrth 
              ola ym mis Mehefin bob amser. Ac erbyn y flwyddyn wedyn mi oedd 
              Carys - oeddwn i’n feichiog efo Carys ac erbyn y flwyddyn 
              rhwng y ddwy oeddan nhw wedi anghofio mod i heb fod yn y barcloth 
              w’chi – so dyna un peth ddaru o ddim digwydd i mi o 
              gwbwl. `Aru fi ddim gorfod mynd i’r barcloth o gwbwl ynde’.
 (iii) Mynd 
              i gnoco : Cofia May Lewis, Tregynnwr (8926) ond yn wreiddiol 
              o Fynachlog-ddu yr arfer o ‘gnoco’ am gariad, trwy i’r 
              cariad daflu pridd at y ffenest i’w deffro wedi i’w 
              rhieni fynd i’r gwely. Yna cai’r cariad ei adael i mewn 
              am “chat” a dyna’i gyd. ‘Odd e’n arferiad 
              ... “chat” odd hi fwya’. Ond ‘os och chi’n 
              gwbod bo fe wedi bod yn London neu’r Crymych Arms, y ddou 
              dafarn, odd e’n cal mynd ... dim gweld rhagor wedyn’. 
               (iv) Yn, 
              neu wedi’r, cwrdd : Eisoes, wrth ymdrin â phwysigrwydd 
              y capel yn y gymdeithas nodwyd fod pobl ifanc yn fynych yn mynd 
              i’r tai cwrdd gwaahnol i chwilio am gariadon. Mynychent gyrddau 
              gweddi (Ray Samson, Tegryn [9500]); cyrddau pobl ifainc ( May Jenkins, 
              Hwlffordd [9495]); a chyrddau Beiblaidd ( Mella Jenkins, Capel Newydd 
              [9512]) i’r perwyl hwn. Dyna’r awgrym hefyd yn narlun 
              Jane Gwladys Evans, Y Parc (9107) pam yr ai hi i’r seiat bob 
              nos Fawrth yn y pedwardegau : ‘Dw i ddim yn siwr oeddan ni’n 
              mynd i’r seiat am y rheswm iawn bob amser. Oedd `na ryw fan 
              yn gwerthu nwydde yn dod o Lanuwchllyn i’r Parc ar nos Fawrth 
              a fydde hogie’r ardal i gyd yn dod yno i gwfwr y fan wrth 
              gwrs a mae’n fwy na thebyg mae –oeddan ni’n mynd 
              er mwyn gweld rhai o’r hogia erbyn hyn achos dyna’r 
              unig “chance” oedd gyn rhywun i gal caraid a deud y 
              gwir ynde. Ac i’r eisteddfode hefyd – fyddech chi ddim 
              yn cystadlu ond fydde rhywun yn mynd i’r eisteddfode `ma er 
              mwyn cwfwr hwn a’r llall ynde’.   Cofiwn fod y trip ysgol Sul yntau 
              yn gyfle amheuthun i bobl ifainc fod mewn cwmni, fel y nododd Mary 
              Hughes, Y Groeslon (8828)  Eisoes hefyd soniwyd am boblogrwydd 
              mawr y ‘mynci parêd’, fel y’i gelwid, yn 
              yr Adran : Hamdden (ar y we-fan) a dyma ragor o enghreifftiau o’i 
              atynfa :
 (a) Ray Morris, Tre-boeth (8893) : yn dweud mai 
              “bunny run” oedd yr enw am yr arfer yn Nhreforys.
 
 (b) Margaret May Davies, Trefdraeth (9207) : Yn 
              yr haf deuai bechgyn a merched yr ardal lawr i lan y môr, 
              ‘cwato daps neu sgidie cerdded yn y claw’ a gwisgo rheini 
              am eu traed ar ôl dod mas o’r cwrdd cyn dechre cerdded.
 
 (c) Margaret Jones, Rhydaman (8950) : Roedd yr 
              hewl rhwng Rhydaman a Llandybïe ‘yn dew o bobol ifanc 
              bob nos Sul’ ar gyfer y ‘monkey parade’. Byddai 
              merch yn clico gydag ambell i fachgen ond ar y cyfan roedd y peth 
              yn ddigon diniwed.
 
 (d) Margaret A. Griffiths, Pen-y-groes, Caerfyrddin 
              (9065) : Doedd hi ddim yn rhy hoff o’r mynci parêd yn 
              Cross hands. Doedd hi ddim eisiau cael ei dewis o griw fel’na 
              am ei bod ‘dipyn yn fwy stansh na `na’. At hyn, gan 
              ei bod yn bwriadu mynd ymlaen i’r coleg, doedd hi ddim ‘ar 
              y farcad’.
 
 (e) Ar y llaw arall ar nos Sadwrn y gwelsai Mary 
              Evans yr arfer o ‘lyfnu’ yn Llangefni (9566) a hynny 
              er mwyn cael ‘clic’ efo bachgen neu ferch. Chafodd Mary 
              ei hun ddim mynd i lyfnu nes roedd wedi dechrau gweithio yn 16 oed.
 (v) Eisteddfodau : 
              Yn ôl Eleanor M. Lewis, Llanafan ( 9450) ai hi a llawer arall 
              i eisteddfod Ysbyty i gwrdd â phobol ifanc oherwydd mai ‘dim 
              ond eisteddfodau oedd i gal’.  GWRANDEWCH ar Gwyneth Evans, 
              Cwm-ffrwd (8899) yn trafod agwedd ychydig yn wahanol o 
              gymdeithasu mewn eisteddfodau tua diwedd y pedwardegau. Wedi dweud 
              nad oedd rhyw yn chwarae rhan ganolog yn eu perthynas fel bechgyn 
              a merched, meddai :  ‘Ond 
              ar yr un pryd, on i siarad â ffrind i mi diwrnod o’r 
              blaen – amdanon ni’n mynd i eisteddfode chmbod – 
              yn Sir Feirionnydd oedd hyn. A parti merched ag yn y blaen o’r 
              Aelwyd a phethe. Fyddan ni’n mynd i ryw lefydd fel Rhydymain, 
              dwi’n cofio, a ryw le arall wedyn – Melin-y-coed yn 
              nyffryn Conwy – rhyw lefydd go wyllt fel yna – rhyw 
              griw o fechgyn digon gwyllt. Wel, tasa’r pethe odd y bechgyn 
              `na’n neud i’r merched `na’n digwydd heddiw fe 
              fydden nhw i gyd o flaen eu gwell chi’n gwbod yntefe. Ond 
              oedd `na ryw ryddid fel `na chmbod, odd `na , beth alla i ddweud 
              wrthoch chi, odd `na ryw ryddid i fechgyn ’i thrïo hi, 
              (chi’n gwbod), mas yn fwy na sydd heddiw falle. Falle bydden 
              nhw’n cael dod o flaen eu gwell am ymosodiade anweddus ne 
              rywbeth heddiw. Ond dwi’n cofio fyddan nhw’n aros tu 
              fas i’r dryse `ma chmbod – eisteddfode `ma am i’r 
              merched ddod mas yntefe. Ag yn rhuthro amdanyn nhw pan oedden nhw’n 
              dod mas, chmbod. Ma hynny – ma `na ryw wahanieth wedi bod 
              fel `na chmbod; ond rywbeth i ymladd yn `i erbyn ac i roi cic iddyn 
              nhw chmbod, neu i redeg o’u gafel nhw odd y peth ar y pryd. 
              Dim rywbeth och chi’n weld fel rhyw sen fawr arnoch chi fel 
              merch nag yn rhywbeth i fynd i gyfraith ynglyn â fe, chi’n 
              gwbod’. (vi) Y sinema / y pictiwrs 
              : Nod Edna E. Williams, Llanrhuddlad (9563) wrth fynd i’r 
              pictiwrs yn Amlwch ar nos Sadwrn, ddiwedd y pedwardegau, fyddai 
              ffindio rhyw ‘foi bach hurt’ i dalu drosti a llwyddai 
              yn aml hefyd. Yna ymlaen i Landdeusant i ddawnsfeydd gyda phawb 
              yn cyfrannu hanner coron at y tacsi. Aent fel criw o ffrindiau i 
              geisio ffindio partner.Eirwen Jones, Llangwm (9715) : Aent i lawr ar y bws pump nos Sadwrn 
              i Ddinbych i’r pictiwrs i ‘chwilio am gariad’. 
              Gwisgai hi ffrog a chôt smart bob amser ar gyfer hyn.
 Valerie James, Idole, Caerfyrddin (9079) : Tra’n ifanc ym 
              Mrynaman ai pawb i garu ‘bach diniwed’ i seddau cefn 
              y sinema. Ai’r parau i mewn ar wahân ond wedi i’r 
              golau ddiffodd byddai’r seddau yn clatshan i gyd wrth i bawb 
              newid lle!
 (vii) Y 
              Clwb Ffermwyr Ifainc : Dechreuodd y rhain yn y pedwar-/ 
              pum-degau a buan iawn y daethant yn ganolfannau hynod o ddeniadol 
              ar gyfer ieuenctyd bro. ‘’Na le odd caru yn mynd mlân 
              odd yn Clwb Ffermwyr Ifainc’, meddai Letty Vaughan, Y Dderi 
              (9793) a hithau wedi bod yn aelod yn Felin-fach, Cellan a Llanfair 
              a byddai eraill, fel Elen Evans (8976) ac Ann E. Pierce Jones (8979) 
              o Garndolbenmaen yn ategu hynny yn bendant, ynghyd â Mary 
              Owen, Bronnant (9261) a gyfarfu â’i darpar-wr yng nghlwb 
              Lledrod tua 1950 ac Anne Evans, Nant Gwynant (8980) yn 1948. 
 (viii) Gyrfâu Chwist : Dyma 
              ddenai Kitty Williams, Aberteifi (9240) ac ni fyddai hi fyth gartre 
              ohonynt tan 12 yr hwyr.
 
 (ix) Aelwydydd yr Urdd :
 EDRYCHWCH ar y 
              lluniau hyn : (a) Aelwydydd Ffynnon-groes 
              a Chylch Teifi yn eu parti Nadolig yn festri isaf Capel y Tabernacl, 
              Aberteifi; 1952.
 (b) Glenys Williams (Lewis nawr), athrawes yn ysgol 
              Llwynihirion a Lyn Rees o Gastell Newydd Emlyn yn mwynhau tipyn 
              o hwyl diniwed yn y parti.
 (trwy garedigrwydd Mair Garnon James)
 (x) Unwaith eto 
              roedd apêl y rhain o’r tridegau yn arbennig ymlaen yn 
              aruthrol. Cofia Margaret Valerie Jones, Brynaman (9159) fod rhywbeth 
              ymlaen a hynny yn rhoi cyfle i ganu ac i gwrdd ag eraill bob nos 
              yn yr Aelwyd ym Mrynaman yn y pedwar/pum-degau.Sioned Penllyn ( Margaret Janet Jones), Y Drenewydd, (9630) : cyfarfu 
              hi â’i gwr ar un o fordeithiau poblogaidd yr Urdd i 
              Fôr y Canoldir yn y tridegau.
 Siaradwraig o ardal y Bala (8841) (yn y dauddegau) : ‘odd 
              e’n golygu mwyniant mwy na dim. ... fe ddoth yr Urdd â 
              ryw ddimesiwn gwahanol i ni – rhyw ddimensiwn iach iawn. I 
              ddechre on ni’n perfformio gyda bechgyn, a’u hystyried 
              nhw nid fel bechgyn ond fel cystadleuwyr. ... Nath e wahanieth mawr 
              i ni, yr Urdd , yn Aberteifi. ... Deimlon ni’r adeg honno 
              bo ni’n Gymry’. O safbwynt cymdeithasol ‘gyrfa 
              chwist odd y peth mwya cyffrous odd `na, ac on i ddim yn cal mynd 
              i hwnnw bob amser – cardie’r diafol on nhw’n `de?’
 Tystiodd eraill iddynt gael mwyniant arbennig wrth fynychu’r 
              gwersylloedd yn Llangrannog a Glanllyn.
 
 (xi) Ar feiciau ( modur) : Arferai 
              Mella Jenkins, Capel Newydd (9511) fynd ar gefn beic i garu bob 
              nos Fawrth, Iau a Sadwrn yn y pedwardegau cynnar ond roedd yn rhaid 
              bod i mewn gartre erbyn 10 yr hwyr.
 Ann Rees, Penrhiw-llan (9490) : ar feiciau modur y bu hi a’i 
              chariad yn caru yn y pumdegau ac arferent fynd ar wyliau i Ddyfnaint 
              ac i ogledd Cymru arnynt. Doedd hi ddim yn arferol i bâr a 
              oedd yn caru fynd ar wyliau gyda’i gilydd bryd hynny a doedd 
              ei mam ddim yn hapus ynglyn â’r peth.
  (xii)Dawnsfeydd : 
              Ar y cyfan doedd dawnsio ddim yn gymeradwy o gwbl gan rieni tan 
              ymhell wedi’r rhyfel a chai mwyafrif ein siaradwyr mo’u 
              mynychu. Ond newidiodd agweddau yn raddol :
 GWRANDEWCH ar 
              siaradwraig o ardal Porthaethwy (9636), ond yn sôn 
              am Flaenau Ffestiniog yn y tridegau cynnar , yn egluro wrth Sharon 
              Owen beth oedd ddim yn dderbyniol i ferch ifanc ei wneud bryd hynny 
              : Siaradwraig 
              : Oedd o ddim yn dderbyniol 
              i fynd i ddawnsio. Adeg hynny odd y dawnsfeydd yn dechra, a ddoth 
              `na ryw ddosbarth dysgu dawnsio hefyd i `Stiniog, ag on i’n 
              sal isho mynd i hwnnw ‘te. Ond oedd `n Nhad yn deud “Na, 
              dim mynd i ddysgu dawnsio”, ag on i’n deud “ Ond 
              pam? Be sy’n rong ar fynd i ddawnsio?” “Ma dawnsio’n 
              iawn”, medda fo, “Ma hynny’n iawn, ond be sy’n 
              digwydd ar ôl y dawnsfeydd yma sy ddim yn iawn”. A dyna 
              fo – dyna ddiwadd ar hynny.Sharon : A sut oeddach chi’n teimlo 
              am hynny ar y pryd?
 Siaradwraig : On i’m yn fodlon ond 
              on i’n gweld `i boint o `te, yn gweld ‘i boint o. Ie’.
 Megan Wyn Phillips, Bethesda (8822) 
              : ‘Oeddan ni’n mynd lot pan oeddan ni’n byw yn 
              Borth radag rhyfel, mynd lot i ddawnsio, bron bob nos w’chi. 
              Oeddan ni’n mynd i Baronhill pan oedd sowldiwrs yno, i Biwmaris 
              oeddan ni’n mynd rhan fwya i Smokey Joe oeddan nhw’n 
              alw fo. ... Doeddan ni ddim isho cariad radag hynny. Na, odd well 
              gynnon ni gael dawnsio efo gwahanol rai a mynd adra wedyn a dyna 
              fo, `te. A mynd wedyn noson wedyn a gweld rhywun arall wedyn, `te’. 
              Gwisgai sgert, blows a sodle uchel i fynd i’r dawnsfeydd hyn.Siaradwraig o Langennech (8854/5) : Wrth weithio yn y Royal Naval 
              Armaments Depot wedi’r rhyfel cafodd gyfle i gymdeithasu â 
              1000 o gydweithwyr. Roedd bwrlwm yn y bywyd cymdeithasol rhwng y 
              Clwb Ieuenctyd, dawnsfeydd yn y Ritz a thripiau i Gaerdydd ar ‘utility 
              buses’ â’u seddau pren.
 Dora Griffiths, Hwlffordd (9494) : Roedd hi eisiau mynd gyda’i 
              chariad i “Police Ball” yn y Barracks, Caerfyrddin (yn 
              y 40au), ond i osgoi ei thad bu’n rhaid iddi fynd â’i 
              ffrog i dy ei brawd a threfnu aros gyda merch o’r gwaith. 
              Roedd bar yn y ddawns ond yfodd Dora ddim byd meddwol.
 Siaradwraig o Gaerdydd (9243) : am y chwedegau cynnar – pan 
              ai i ddawnsfeydd yn ei harddegau, os oedd bachgen yn ei cherdded 
              adre cerddai ei thad y tu ôl i’r ddau.
 Meirwen Davies, yr Wyddgrug (9131); Cyfarfu â’i gwr 
              Alistair mewn dawns yng Nghaer ac yna aethant i Quaint Ways am fwyd. 
              Gwisgai hi mini a stilettos i fynd i ddawnsfeydd yn y chwedegau.
 
 (xiii) I’r dre : Elsa Jones, 
              Bryneglwys, Rhuthun (9575) : Fyddech chi ddim yn cyfarfod eich cariad 
              o gwmpas eich cartref ddechrau’r pedwardegau. Yn y dre nos 
              Sadwrn byddech chi yn ffindio cariad gan gerdded rownd a rownd a 
              rownd. ( tebyg i’r mynci parêd)
 Gwyneth Williams, Morfa Nefyn (8987) : I fynd allan i Bwllheli ar 
              nos Sadwrn yn y pumdegau arferai Gwyneth wisgo “costume”, 
              handbag a stilettos. ‘Oeddan ni am hydoedd yn gwisgo i fynd 
              efo bws Cae-lloi i dre a pawb am y gora! A “seams” yn 
              y sanau. Wel, sawl gwaith sbïon ni i edrach os oedd y “seams” 
              yn “straight”?’
 
 (xiv) Mewn tafarn (?) : Os oedd 
              un tabw llwyr, fel y nodwyd wrth drafod y thema ‘Hamdden’ 
              mynychu tafarn oedd hwnnw a thystia bron bob siaradwraig na fydden 
              nhw BYTH yn meddwl mynd i mewn i dafarn nac yfed. Eto dechreuodd 
              pethau newid yn y cyswllt hwn hefyd yn ystod y chwedegau.
 Betty Williams, Llansannan (9726) : ‘On i wastad yn meddwl 
              os mai mewn tafarn oeddech chi’n ffeindio gwr, fydd o’m 
              llawar o wr `de’.
 Beti Bebb-Coleman, Tal-y-wern, Maldwyn (9746) : Dwedai ei thad wrthi 
              ‘Cer di mewn i dafarn un waith, fe fydd yn hawsach i ti fynd 
              yr ail waith’.
 M. Iona Edmunds, Llanelli (8914) : yn sôn am ddechrau’r 
              chwedegau – wedi dechrau caru byddai hi a’i chariad 
              yn mynd i ambell i dafarn.
 B. RHYBUDDION RHIENI :  (i) Siaradwraig 
              o ardal y Bala (8841) : Roedd ‘Nhad a Mam yn dipyn o ddylanwad 
              arna i. Dylanwad negyddol, dylanwad paid – paid neud hyn a 
              paid neud llall, ac on i’n derbyn hynny’. ( diwedd y 
              dauddegau) 
 (ii) Rachel Thomas, Y Groeslon (9194) : ‘Oedd 
              Mam yn deud “Cofiwch chi na ddewch chi â trwbwl i’r 
              ty `ma’. Doeddach chi ddim yn gwbod yn iawn be’ oedd 
              trwbwl yn feddwl’. ( y dauddegau)
 
 (iii) Margaret May Davies, Trefdraeth (9206) ; 
              cai’i rhybuddio i ‘pido dod â babis ffor hyn neu 
              yn yr aseilam fyddi di’n lando’. (20au)
 
 (iv) Nesta Jones, Llanelli (9076) : Pan ai allan 
              byddai ‘hen, hen holi, “Ble ti’n mynd? erbyn pryd? 
              efo pwy? sut ti’n mynd i ddod nôl?” ac wrth gwrs 
              merch oedd yn mynd i drwbwl bob amser! Doedd dim sôn fod bachgen 
              yn mynd i drwbwl’.
 
 (v) Nans Davies, yr Wyddgrug (9178) : Cynghorai 
              ei ffrind hi wrth iddi fynd ar ddêt, “Keep your hand 
              on your halfpenny”. (y tridegau yn ardal Ferndale)
 
 (vi) Winifred Owen, Llanrwst (9697) : ‘Mi 
              roedd ‘na lein, a doeddach chi ddim i’w chroesi ... 
              doeddach chi ddim i fod i aros allan yn hwyr ... doeddach chi ddim 
              i bonsho efo hogia yn rhy fuan. Bob math o betha fel’na. Odd 
              `na lein. Ond odd hi’n bosib dod drostyn nhw `de’. ( 
              adeg y rhyfel)
 
 (vii) Rhiannon Parry, Bro Ilar (9255) : ‘Alla 
              i ddim gweud bod hi’n strict ond oedd hi’n dweud wrthon 
              ni am fod yn ferched glân, merched glân, na’r 
              unig beth glywes i Mam wastad yn dweud wrthon ni, bod yn ferched 
              glân, ta beth odd hi’n meddwl wrth ferched glân’.
 
 (viii) Mary Llywelyn, Login (9235) : Cofia un ferch 
              a oedd yn disgwyl babi yn gorfod mynd i’r wyrcws ac roedd 
              ei mam yn ei rhybuddio mai yno yr ai hithau hefyd os na fyddai’n 
              byhafio. (40au hwyr)
 
 (ix) Betty (E.M.) Jones, Pump-hewl (8790) : Cyngor 
              ei thad iddi oedd ‘chwilia am gystal â ti, a well na 
              ti ond paid â mynd gyda dy waeth’.
 
 (x) Lona Jones, Llandudno (9338) : ‘Odd o’n 
              gymaint o warth ar deulu os odd `ne blentyn yn cael ei eni heb i’r 
              rhieni briodi ... dwi’n cofio ... hogyn yn mynd â fi 
              adre rwy dro, ma’n rhaid mod i’n ryw bymtheg oed, a 
              finne ddigon diniwed yn mynd â fo i fyny i ddrws y ty. A Nhad 
              yn y `ngweld i ... nefi bliw!, mi roedd o `di gwylltio, a fewn i’r 
              ty a chael coblyn o ddrwg. A deud wrtha i “Curfew! Curfew!” 
              ... Fuo rhaid i mi fod i mewn bob nos am hanner `di wyth o hynny 
              mlaen am hir iawn’.
 
 (xi) Beti Bebb-Coleman, Tal-y-wern, Maldwyn (9746) 
              : Pan oedd hi’n gadael cartref am Goleg Cartrefle, Wrecsam 
              tua 1950 aeth ei thad â hi i gwrdd â’r tren ac 
              meddai ‘To thine own self be true’. Mae Beti wedi cadw 
              at y cyngor hwnnw.
 
 (xii) Siaradwraig o Lanybydder (9491) : rhybudd 
              ei rhieni oedd ‘Ta beth `nei di paid â dod nôl 
              fan `yn â Catholic’. Tase hi’n gwneud hynny ‘`na’i 
              diwedd `i’!.
 
 (xiii) Eirlys Peris Davies, Ffynnon-groes (9517) 
              : Dechreuodd garu gydag un o aelodau’r capel ond cofia ei 
              thad a oedd yn weinidog yn dweud wrthi ‘Paid byth â 
              mynd efo un o’n aelodau i eto’. Pan orffennodd y garwriaeth 
              pwdodd y teulu.
 
 (xiv) Gwen Redvers Jones, Llangyndeyrn (8771): 
              Cyngor ei nain iddi cyn mynd i’r coleg oedd ‘Paid â 
              gadael i ddim un dyn fynd dan dy bais di cyn ti `di priodi’. 
              (chwedegau)
 
 (xv) Gwenda John, Blaen-ffos (9218) : Byddai ei 
              mam yn ei rhybuddio i beidio â ‘dechrau dim byd’ 
              ac i beidio mynd allan gyda bechgyn oedd â “reputation”.
 C. MERCHED COMON :
 Yn sicr roedd gan y mwyafrif farn 
              ar y testun hwn. Roeddent yn gyfarwydd â’r term a’r 
              hyn a gynrychiolai, gan arswydo rhagddo. (i) Dilys Clement, 
              Llanddarog (8927) : Os gwisgai lipstick i fynd allan yn ardal Clydach 
              yn y tridegau dwedai ei thad wrthi ‘Tynna hwnna “off”, 
              merched y “streets” sy’n iwso hwnna’. Arferai 
              llawer o’r merched a weithiai yn y gwaith tun yng Nghlydach 
              smocio ac yfed a chyfrifid y rhain yn gomon eu ffordd.
 (ii) Margaret May Davies, Trefdraeth (9206) : Credid 
              bod ambell ferch oedd yn gwisgo’n wahanol yn enwedig “ear-rings” 
              a mynd i dafarn yn gomon.
 
 (iii) Elsa Jones, Rhuthun ( 9575) : Ystyrrid rhai 
              yn “common jacks”. Byddai un yn dweud “Have another 
              look, you’ll know me better next time”.
 
 (iv) Margaret Jones, Rhydaman (8950) : Ystyrrid 
              merched “loose” a oedd yn cael cyfathrach rywiol yn 
              go ifanc yn gomon. Ar y llaw arall roedd smocio (fel y gwnai hi) 
              yn “the done thing”.
 
 (v) Elizabeth Tynno Morris, Llanrhaeadr-ym-Mochnant 
              (9615) : Cyfrifid nad oedd merched oedd yn lliwio’u gwalltiau, 
              yn gwisgo llawer o golur a chanddynt ewinedd coch, coch ac yn gwisgo 
              trowsus ddim yn barchus.
 
 (vi) Rhiannon Jones, Blaenau Ffestiniog (9305) 
              : ‘odd hi’n gomon ... merched drwg odd yn mynd i dafarn. 
              Merched drwg odd yn chwilio am ddynion, ma’n siwr’.
 
 (vii) Glenys Owen, Mynachlog-ddu (9524) : Os oeddech 
              chi’n mynd i dafarn och chi’n “disgrace” 
              i’r gymdeithas. Doedd e ddim yn cael ei gyfrif yn beth neis 
              i ferch smocio `chwaith – dim ond merched y Land Army neu 
              rai mewn iwnifform wnai hynny. Ni chai fynd i ddawnsfeydd o gwbwl 
              a rhybuddiai ei thad hi “Watshwch chi’r bechgyn’.
 
 (viii) Eirlys Peris Davies, Ffynnon-groes ( 9517) 
              : ‘Hen ferched comon oedd mas ar ôl deg’.
 
 (ix) Beti Eurfron Hughes, Llanaelhaearn (9425) 
              : Odd “make-up” yn tabw adra – doeddan ni ddim 
              i fod. Os fydda isho rhoid “make-up” on i’n denig 
              wedi rhoi peth’. Doedd neb yn lliwio’u gwalltiau oherwydd 
              cyfrifid hynny yn beth comon i’w wneud.
 
 (x) Eleanor Roberts, Eglwys-bach, ger Llanrwst 
              (9673) ; ‘Dwi’n cofio cal helynt efo ‘Nhad pan 
              on i isho gwisgo slacs. “Ew, na”, medda fo, “hen 
              ferched comon odd yn gwisgo slacs”’.
 CH. CAEL CARIAD :  (i) Ray Samson, 
              Tegryn (9500) : Doedd merch fferm ddim fod i briodi gwas, a morwyn 
              ddim i fod i briodi mab fferm. Doedd neb yn torri’r rheol 
              hon. Bu hyn yn rhywfaint o broblem iddi hi pan aeth i wasanaethu 
              ar fferm lle roedd y mab fferm yn ddi-briod. Y cwestiwn mawr gan 
              deulu’r darpar briodfab oedd ‘Beth sy `da ti tu ôl 
              i ti?’, h.y. faint o arian sy gan rywun i’w gyfrannu 
              at y briodas.
 (ii) Ann John, Clynderwen (9229) : Byddai yn ei 
              chael hi gyda’r bois amser y gwair. Byddent yn dweud wrth 
              ei chariad ‘’se werth dim byd i ti fynd ar ôl 
              roces ‘na, fydd hi werth dim byd – dim ond ar gefen 
              ceffyl ma hi’. A phan grybwyllwyd ei henw wrth ryw gariad 
              posibl arall dwedodd ‘O na, dwi ishe rhywun sy’n gwisgo 
              ffedog sach a ddim yn car bob dydd’.
 
 (iii) Margaret May Davies, Trefdraeth (9207) ; 
              Roedd hi a’i darpar-wr yn byw yn agos at ei gilydd a dwedid 
              ei fod ‘wedi cael gwraig ar claw’r ardd’. Buon 
              nhw’n caru am dros ddwy flynedd ond chai e ddim dod i’w 
              chartre o gwbl a phe gwelai ei rhieni byddai’n rhedeg i ffwrdd. 
              Ryw chwe mis cyn y briodas y daeth i’r ty gynta.
 
 (iv) Gwen Owen, Pencaenewydd (9278) : Cyfarfu â 
              Idris Owen yn Ffair Gwyl Ifan, Cricieth. Buont yn canlyn am dipyn 
              ond wedi i fam Idris ddeall fod T.B. yn ei theulu rhwystrodd y pâr 
              rhag parhau â’r berthynas. Yna cyfarfu Gwen â 
              morwr a chafodd ei hun yn feichiog. Penderfynwyd priodi ond fe’i 
              boddwyd ef ar y môr. Cafodd Gwen gynnig erthyliad gan ei meddyg 
              gan fod y teulu mor uchel ei barch yn yr ardal ond gwrthododd ‘Dim 
              o’r fath beth doctor,’ meddai ‘Os dwi’n 
              cymryd ‘y nghwymp, dwi’n gymryd o’. Ail-gydiodd 
              Gwen yn ei pherthynas gyda Idris, penderfynasant briodi a magodd 
              ef ei merch fel ei ferch ei hun.
 
 (v) Jane Jones Roberts, Aber-soch (8990) : Cofia’r 
              Gwyddelod (rhyw 200 ohonynt) yn dod draw i weithio yn chwarel Trefor, 
              tua 1930, a merched Caernarfon yn dod draw i chwilio am gariad.
 
 (vi) Margaret Jean Jones, Bethesda (8817-8) : ‘Odd 
              genod yn mynd allan efo hogia ag os oeddan nhw’n gafal amdanoch 
              chi a rhoi sws i chi odd o’n beth mawr `de. Odd ganddoch chi 
              newyddion mawr i ddeud bora dydd Llun. ... Doedd ganddon ni mo’r 
              pil, nagoedd, na dim byd, a wedyn toeddan ni jest ddim yn gneud 
              petha felly. Odd gynnon ni ormod o ofn , ma’n siwr, cal plant 
              ... Oeddan ni, ( ei darpar-wr a hi) yn mynd efo’n gilydd am 
              flynyddoedd, wyth mlynadd cyn, ac ma’n siwr fe alla rwbath 
              fod wedi digwydd, ond na, oeddwn i’n teimlo ma rhaid i mi 
              barchu fy magwraeth ... a felly wnath o ‘rioed ddod fewn i’m 
              meddwl i’. (yn y pedwardegau)
 (vii) GWRANDEWCH 
              ar Beti Williams, Llangwyllog, Môn (9391) yn egluro 
              beth oedd y ‘rheolau’ anysgrifenedig wrth fynd i garu 
              :  ‘Ond 
              oeddach chi’n ryw wbod bod raid i chi fyhafio’ch hun. 
              `da chi’n gweld. A’r gair pwysig oedd “Na”. 
              Gair pwysig iawn odd “Na” adeg hynny. Mi oeddach chi’n 
              edrach ar ôl eich hun, achos todd o’m yn dderbyniol 
              i fod fel arall `da chi’n gweld. Oeddach chi’n meddwl 
              am `ch teulu a odd `na ryw , be `di’r gair dwch? – odd 
              `na ryw – balchdar hefyd `lly `te. Oedd `na ryw falchdar. 
              Oeddan ni’n dlawd a balch, ... Ond mi odd y balchdar `ma, 
              oeddach chi’n edrach ar ôl eich hun, odd pawb yn edrach 
              ar ôl `i hun; ne mi odd yn ffwl `da chi’n gweld. Ia, 
              a toeddach chi’m isho cal `ch galw’n ffwl, nag oeddach?. 
              Wedyn odd pawb yn “toe the line”, dwi’n meddwl, 
              odd y gair’.  (viii) 
              Meinir Beech, Bryneglwys, Corwen (9590) : Roedd ei ffrind yn gyrru 
              a chaent fenthyg hen fan fawr gario moch i fynd allan i’r 
              Bala i gwrdd â chariadon. ( hyn tua diwedd y pumdegau) Roedd 
              ganddynt gariad yr un a chaent ‘dipyn o snog’ ar y ffordd 
              adre. Yn arferol byddent yn cwrdd yn y Milk Bar, yna’n mynd 
              i’r pictiwrs ac yna am dro bach o gwmpas y llyn. Yn yr haf 
              eisteddent ar y meinciau a chael snog. Roedd y rhan fwya o’r 
              caru yn reit ddiniwed. 
 (ix) Laura Wyn Roberts, Morfa Nefyn (9281) : Doedd 
              cyd-fyw cyn priodi ddim yn opsiwn yn y chwedegau. Doedd hi ddim 
              wedi cysgu gyda’r un o’i chariadon blaenorol na chyda’i 
              dyweddi cyn priodi. Roedd y gwerthoedd hynny wedi cael eu dysgu 
              ers oed cynnar iawn.
 
 (x) Siaradwraig o Wrecsam (9658) : Bu’n caru’r 
              un bachgen am ddeng mlynedd ond roeddent yn perthyn yn agos a doedd 
              hynny ddim yn dderbyniol i’w teuluoedd. Fel ffermwyr roeddent 
              yn ymwybodol o bwysigrwydd cyfnewid gwaed. At hyn roedd ei chariad 
              eisiau gwraig ar gyfer ei fferm a ‘doeddwn i ddim eisiau bod 
              yn rhyw wraig fach wrth y sinc yn gwneud bwyd i ffermwrs i mewn 
              ac allan trw’r dydd’. Cofia hefyd y “Swinging 
              Sixties” yn y Bala a Dolgellau a chred fod pobl ifanc yn barod 
              iawn i arbrofi â chyfathrach rywiol yn y cyfnod hwn.
 
 
 
 |