Yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1939-45) roedd yn rhaid i ffermwyr dyfu mwy o gnydau i fwydo’r bobl a chan fod llawer o weision fferm wedi mynd i’r fyddin, gorchmynnwyd i ferched ifainc sengl a phriod (di- blant) weithio ar y tir. Ymunodd nifer ohonynt â’r Fyddin Dir (Women’s Land Army); rhai yn ferched lleol a rhai wedi dod draw o Loegr. Erbyn 1941 roedd 2000 yn aelodau yn sir Ddinbych yn unig. Bach iawn oedd y cyflog, yr oriau yn hir a’r gwaith corfforol allan yn y caeau yn hau, medi, gwasgar dom a difa plâu yn drwm a chaled iawn.

Felly hefyd y gwaith gyda’r Comisiwn Coedwigaeth yn plannu, tocio a llifio coed. Eto ehangwyd gorwelion sawl un ohonynt trwy eu profiadau adeg y rhyfel. Parhaodd y gwaith yma am rai blynyddoedd wedi diwedd y rhyfel.

Dyma lun o Dorothy Owen (ar y dde) a’i chydweithwyr yn y Comisiwn Coedwigaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a thystysgrif rhyddhau Nancy Williams o’r Fyddin Dir.

Mae tri darn yma lle mae Nancy Williams o Landysul a Kitty Williams o Aberteifi yn sôn am fod yn y Fyddin Dir. Yna cawn hanes Dorothy Owen, Betws-y-coed, yn disgrifio gweithio yn y Comisiwn Coedwigaeth. Gwrandewch ar eu storiau.

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.